Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Rhisga
CrossKeys
NP11 7ZA
welsh@coleggwent.ac.uk
01495 333710
Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Rhisga
CrossKeys
NP11 7ZA
welsh@coleggwent.ac.uk
01495 333710
Aeth bron i 50 o deuluoedd o Went ar antur i wersyll yr Urdd, Llangrannog y penwythnos diwethaf i ddysgu Cymraeg gyda’u gilydd. Roedd dosbarthiadau i’r oedolion a nifer o weithgareddau hwyliog amrywiol i’r plant.
Roedd y cwrs Cymraeg yn y Cartref a drefnwyd gan Dysgu Cymraeg Gwent, Coleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnig cyfle unigryw i ddysgwyr roi eu Cymraeg ar waith mewn awyrgylch anffurfiol gyda theuluoedd eraill o bob rhan o Gymru, i gyd gyda’r un nod!
Gyda rhaglen lawn o ddosbarthiadau Cymraeg ar bob lefel, o Ddechreuwyr pur i Hyfedredd, gyda’r dosbarthiadau’n cael eu cynnal tra roedd y plant yn mwynhau gweithgareddau awyr agored amrywiol dan ofal arweinwyr profiadol a chymwys.
Roedd yr hwyl yn cynnwys sgïo, merlota, gwibgartio, saethyddiaeth, nofio a llawer mwy! Roedd yr haul yn gwenu drwy’r penwythnos ac er bod pawb wedi blino’n lân erbyn prynhawn dydd Sul, cafodd pawb amser gwych!
Ychwanegodd Geraint Wilson-Price, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gwent “Mae’n galonogol gweld cymaint o ddysgwyr gyda’u teuluoedd o Went yn gwneud cynnydd mor wych. Mae hefyd mor hyfryd y gallwn gwrdd â'n gilydd wyneb yn wyneb ar ôl yr anawsterau gyda Covid. Yn dilyn ymlaen o lwyddiant eleni dyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb eto y flwyddyn nesaf."