Dathlu dysgwyr a siaradwyr newydd
Wrth i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddathlu ei degfed pen-blwydd, mae’n wych gweld y cydweithio â BBC Radio Cymru ac S4C yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae’r partneriaethau hyn yn chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg, a magu hyder wrth wneud hynny.
Un o uchafbwyntiau’r cydweithio yw’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, sy’n cael ei chynnal eleni rhwng 10 a 16 Hydref. Mae’r wythnos yn rhoi llwyfan i ddysgwyr a siaradwyr newydd ledled Cymru, gan ddathlu eu llwyddiannau ac ysbrydoli mwy o bobl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Llwyfan i leisiau newydd
Yn ystod yr wythnos, bydd eitemau a chynnwys amrywiol i’w mwynhau ar draws amserlenni BBC Radio Cymru ac S4C. Bydd digwyddiadau rhithiol hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gwrdd â rhai o gyflwynwyr Radio Cymru a dysgu mwy am waith Archif Ddarlledu Cymru.
Dilynwch y ddolen nesaf am y manylion llawn: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg
Mae’r cyfleoedd hyn yn rhoi cyfle i’n dysgwyr roi eu sgiliau Cymraeg ar waith, mwynhau’r iaith ac ennill hyder i’w defnyddio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Trwy rannu eu straeon, maen nhw’n ysbrydoli siaradwyr Cymraeg hefyd, ac yn dangos sut y gall y Gymraeg agor drysau at brofiadau a chysylltiadau newydd.
Dysgu, defnyddio a magu hyder
Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg – dros 20,000 yn 2024-2025, gan gynnwys nifer cynyddol o bobl ifanc.
Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg y tu hwnt i’r dosbarth yn rhan bwysig o waith y Ganolfan. Drwy ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd, gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau, magu hyder a chroesi’r bont i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae’r cyfryngau Cymraeg yn rhan bwysig o daith iaith ein dysgwyr. Mae gwrando a gwylio ar gynnwys Cymraeg ar y cyfryngau yn ffordd wych o atgyfnerthu’r hyn sy’n cael ei ddysgu ar lawr y dosbarth, a dysgu mwy am Gymru a’i diwylliant cyfoethog. Hyn oll ar ben mwynhau gwrando ar, a gwylio rhaglenni difyr o bob math.
Dyna pam mae llwyfannau fel BBC Radio Cymru ac S4C mor bwysig. Maen nhw’n galluogi dysgwyr i glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau, ac yn cynnig cyfleoedd i’w lleisiau hwythau gael eu clywed hefyd.
Partneriaethau sy’n creu cyfleoedd
Mae gweithio’n bartneriaethol yn ganolog i waith y Ganolfan. Drwy gydweithio â sefydliadau fel BBC Radio Cymru ac S4C, gallwn ymestyn ein cyrhaeddiad, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chreu cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae’n rhoi sylw i bobl sy’n dysgu’r iaith, yn dathlu’r camau bach a mawr ar hyd y daith, ac yn dangos bod croeso i bawb ddysgu a siarad Cymraeg.
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr
Mae gan ddysgwyr a siaradwyr newydd stori bwysig i’w hadrodd. Mae rhannu eu rhesymau dros ddysgu, eu profiadau dysgu cadarnhaol a’r mwynhad y maen nhw’n ei gael o ddefnyddio’r Gymraeg yn gallu ysbrydoli eraill i ddilyn yr un trywydd. Wrth glywed pobl o gefndiroedd gwahanol yn siarad am eu profiadau, gall mwy o bobl weld eu hunain yn dysgu Cymraeg.
Mae gwaith y Ganolfan yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Er mwyn gwireddu’r uchelgais hon, mae angen annog pobl i ddysgu, ond hefyd sicrhau bod ganddynt gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, magu hyder a mwynhau bod yn rhan o gymuned Gymraeg fywiog.