Cyfle i fwynhau Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg!
Yn ddiweddar, roedd llawer o siaradwyr Cymraeg newydd i’w clywed ar BBC Radio Cymru fel rhan o’r ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’.
Roedd rhaglenni dogfen (documentaries) yn dilyn hanes dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd, a chwis bob amser cinio. Roedd siaradwyr Cymraeg newydd yn cynnal Yr Oedfa (service) ac yn westeion arbennig ar raglenni gwahanol. Hefyd, roedd y bobl oedd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn westeion ar raglen Hanna Hopwood Griffiths, Gwneud Bywyd yn Haws.
Dych chi’n cofio’r ddrama feicro wych ‘Enfys’, gyda Richard Nichols, yn 2020? Gwnaeth y Theatr Genedlaethol a BBC Cymru Fyw gyflwyno tair pennod newydd yn ystod yr wythnos a gallwch wylio'r holl benodau ar dudalen youtube y Theatr Genedlaethol. Maen nhw’n ddilyniant (follow-up) i’r ddrama wreiddiol.
Mae cyfle i chi fwynhau uchafbwyntiau eraill yr Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar wefan https://www.bbc.co.uk/sounds/play/live:bbc_radio_cymru neu trwy ddilyn y dolenni isod:
- Cymry Newydd y Cyfnod Clo (6.00pm-6.30pm, 11 – 14 Hydref)
- Cwis CystadleuIAITH (12.30pm–1.00pm, 11 – 15 Hydref)
- ‘Takeover’ Rhaglen Ifan (2.00pm-5.00pm, 11 – 14 Hydref)
- Beti a’i Phobl (1.00pm-2.00pm, 10 Hydref)
- Yr Oedfa (12.00pm-12.30pm, 10 Hydref)
- Eitemau dyddiol am ddysgu Cymraeg ar Raglen Al Hughes, Bore Cothi, Dros Ginio a Rhaglen Geraint Lloyd