Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ymchwil

Gwybodaeth am Bwyllgor Ymchwil y Ganolfan Dysgu Cymraeg
Ymchwil

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer ymchwil dysgu ac addysgu’r Gymraeg, gan gydlynu, comisiynu a rhannu ymchwil sy’n cefnogi arfer da ac arloesedd o fewn y sector.

Pwyllgor Ymchwil

Mae Pwyllgor Ymchwil y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu arbenigedd a chyngor proffesiynol, annibynnol er mwyn llywio cyfeiriad strategol a gweithgareddau ymchwil y Ganolfan.  

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r Ganolfan drwy sicrhau bod penderfyniadau strategol a gweithredol yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil gadarn, arloesedd, cynhwysiant ac effaith.

Aelodaeth

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys cyfuniad o aelodau allanol ac aelodau staff y Ganolfan.  Mae aelodau allanol y Pwyllgor yn dod ag ystod eang o arbenigedd academaidd a phroffesiynol ym maes dysgu ac addysgu ieithoedd, caffael ail iaith, cynllunio ieithyddol, ymchwil addysgol a dadansoddi data.  Mae hyn yn cynnwys profiad o ymchwil i gymhelliant dysgwyr, datblygu hyder a rhuglder, defnydd cymdeithasol o iaith, a’r ffactorau sy’n helpu dysgwyr i drosglwyddo o ddysgu ffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Aelodau

Dyma aelodau'r Pwyllgor Ymchwil:

Ali Hanbury; Dawn Knight; Emyr Davies; Gwenan Higham; Hui Sun; Jonathan Morris; Sarah Cooper; Steve Morris; Tess Fitzpatrick.

Cysylltu â ni

'Dyn ni'n croesawu sgyrsiau gydag ymchwilwyr, prifysgolion, partneriaid a sefydliadau sy’n gweithio ym maes dysgu, addysgu a defnyddio’r Gymraeg ac ieithoedd eraill.  

Os hoffech rannu gwybodaeth am brosiect ymchwil perthnasol neu drafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio, cysylltwch â ni drwy lenwi'r ffurflen isod.

Llun o rywun yn teipio ar liniadur.

Ffurflen gysylltu