Dysgu Cymraeg
Cyrsiau Dysgu Cymraeg
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael yn ystod y dydd a gyda'r nos, gyda'r mwyafrif yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd. Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal gan rwydwaith o ddarparwyr cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dych chi'n gallu dod o hyd i gwrs yma neu beth am ddechrau dysgu trwy ddilyn un o'n cyrsiau blasu ar-lein?
Os dych chi'n defnyddio YouTube, gallwch danysgrifio i'n tudalen er mwyn gweld fideos ychwanegol yma.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg – o’r cwricwlwm ac adnoddau ar gyfer tiwtoriaid i ymchwil, marchnata, cyfathrebu ac e-ddysgu.
Sefydlwyd y Ganolfan mewn ymateb i'r adroddiad Codi Golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion. Mae’r Ganolfan yn gweithredu fel corff hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, sy’n ei hariannu, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a enillodd y tendr i’w sefydlu.
Rhoi’r dysgwyr yn gyntaf yw prif nod y Ganolfan ac mae’r gwerthoedd brand isod wedi’u gwreiddio yn ei holl waith:
Dogfennau
- Cynllun Strategol y Ganolfan 2021 ymlaen
- Adroddiad Blynyddol 2020-2021 - fersiwn i ddarllen ar-lein neu argraffu
- Llywodraethiant y Ganolfan
- Adroddiad Blynyddol 2016-2017
- Adroddiad Blynyddol 2017-2018
- Adroddiad Blynyddol 2018-2019
- Adroddiad Blynyddol 2019-2020
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn sicrhau bod dysgwyr o bob cefndir yn cael croeso, cefnogaeth ac anogaeth ar eu taith i ddysgu’r iaith. Bydd y Ganolfan yn gwneud ei gwaith yn broffesiynol, yn flaengar a chydag ymrwymiad.
Estyn
Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, yn arolygu gwaith y Ganolfan a'i darparwyr cyrsiau. Ewch i wefan Estyn am fwy o wybodaeth. Yn ddiweddar, arolygwyd darparwr y Ganolfan, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor. Darllenwch yr adroddiad.
Cylchlythyr
Darllenwch newyddion diweddara'r Ganolfan.
Strwythur staffio’r Ganolfan
O'r chwith i'r dde: Efa Gruffudd Jones yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis yw'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, Helen Prosser yw'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu a Hannah Thomas yw'r Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu.

Cysylltu â ni
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Ebostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru neu ffoniwch 0300 323 4324
(Wedi'i chofrestru yn Lloegr a Chymru. Rhif y cwmni: 09914004)
Ymunwch â ni ar: