’Dyn ni wedi paratoi rhestr o gwestiynau fydd yn eich helpu i ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg.
Os na allwch ddod o hyd i’r ateb isod, cysylltwch â ni trwy ddilyn y ddolen nesaf:
’Dyn ni wedi paratoi rhestr o gwestiynau fydd yn eich helpu i ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg.
Os na allwch ddod o hyd i’r ateb isod, cysylltwch â ni trwy ddilyn y ddolen nesaf:
Mae dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dan arweiniad tiwtor yn ffordd wych o ddechrau dysgu Cymraeg.
Mae cyrsiau ar wahanol lefelau, o lefel Mynediad (dechreuwyr), i lefel Gloywi (siaradwyr a dysgwyr profiadol). Mae mwy o wybodaeth am y lefelau ar y dudalen Lefelau dysgu | Dysgu Cymraeg.
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael:
- wyneb yn wyneb
- mewn dosbarthiadau rhithiol
Mae cyrsiau hefyd ar gael ar gyfer:
Fel arfer, mae cyrsiau i ddechreuwyr yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr.
Dych chi’n gallu chwilio am gwrs ar dysgucymraeg.cymru - neu mae croeso i chi gysylltu â ni, a gallwn eich helpu.
Mae sawl opsiwn ar gael:
- rhoi eich enw ar restr aros
- chwilio am gwrs mewn ardal gyfagos
- gweld os dych chi’n addas i ddilyn un o’r cyrsiau hyn:
cwrs blasu ar-lein, am ddim
chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg yn anffurfiol
Mae’n bosib bod llefydd ar gael mewn dosbarthiadau rhithiol sy’n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill.
Dych chi’n gallu chwilio am gwrs ar dysgucymraeg.cymru - neu mae croeso i chi gysylltu â ni, a gallwn eich helpu.
Mae’n bosib bod cyrsiau dwys yn cael eu cynnig gan ddarparwr cwrs arall. Mae llawer o weithgareddau eraill yn cael eu trefnu i chi ddefnyddio a mwynhau eich Cymraeg.
Dych chi’n gallu chwilio am gwrs neu weithgaredd ar dysgucymraeg.cymru – neu mae croeso i chi gysylltu â ni, a gallwn eich helpu.
Mae llawer o adnoddau digidol rhad ac am ddim ar gael ar dudalen Adnoddau Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- cyrsiau byrion
- fideos
- ymarferion
Maen nhw’n addas ar gyfer pob lefel.
Unrhyw gwestiwn arall? Mae croeso i chi lenwi’r ffurflen isod.
Bydd eich adborth yn helpu ni i wella ein gwasanaethau, a sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiad gorau posibl.