Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cymraeg i Bobl Ifanc

16-25 oed? Dyma'r lle i ti!

Gwybodaeth

Mae cyrsiau ac adnoddau Dysgu Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i bobl ifanc 16-25 oed.

Pwyswch ar y botymau isod i weld yr holl opsiynau!

Yn dysgu gyda ni’n barod?

Os dych chi’n dilyn cwrs Dysgu Cymraeg lefel Mynediad neu Sylfaen yn barod, mae unedau adolygu arbennig ar gael ar gyfer pobl ifanc.

 

Clicia ar y blwch pinc 'Unedau Adolygu Pobl Ifanc' isod er mwyn gweld y deunyddiau dysgu yma, sy'n arbennig ar gyfer dysgwyr 18-25 oed sy'n dilyn cyrsiau lefel Mynediad neu Sylfaen.

Gwersi Adolygu 16-25 oed

Pwysa ar y blwch pinc 'Gwersi Adolygu 16-25 oed' isod er mwyn defnyddio'r gwersi.

Opera Sebon: Fflat Mêts

Cofrestru Diddordeb

Oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu neu ddatblygu dy Gymraeg? Clicia ar y blwch pinc 'Cofrestru Diddordeb 16-25' isod er mwyn dangos diddordeb yn y cyfleoedd sydd ar gael. Byddwn yn anelu at ddarparu cyfleoedd newydd ar sail y wybodaeth byddwn yn casglu, felly cofia roi cymaint o wybodaeth â phosib er mwyn i ni allu cynnig yr hyn sydd fwyaf addas i ti.

Lefelau Dysgu Cymraeg

Mae'r holl gyrsiau sydd ar gael yn datblygu sgiliau Cymraeg ar wahanol lefelau dysgu, gan amrywio o rai addas ar gyfer dechreuwyr i rai addas ar gyfer siaradwyr mwy profiadol. Dyma eglurhad byr o bob lefel:

Mynediad: Lefel dechreuwyr – mae'r lefel yma'n addas os dych chi’n newydd i’r Gymraeg, neu'n deall patrymau iaith syml, gan gynnwys amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol a geiriau ac ymadroddion pob dydd. 

Sylfaen: Os dych chi’n siarad tipyn o Gymraeg yn barod ac yn hyderus gyda amserau'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol, dilynwch y lefel yma.  Byddwch yn trafod pynciau fel ffrindiau, teulu, gwaith a hobïau.

Canolradd: Ar y lefel yma, byddwch yn dysgu patrymau iaith newydd a bydd llawer o waith sgwrsio.  Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu a byddwch yn dysgu llawer o eirfa newydd.

Uwch: Siarad yw’r prif beth ar y lefel yma.  Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando ac yn dysgu mwy am Gymru.   

Gloywi/Gwella: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau iaith.  Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.

Ddim yn siŵr o dy lefel?

Os nad wyt i'n siŵr pa lefel sy'n addas i ti, mae cyfle i bobl ifanc 16-25 ddefnyddio'r Gwiriwr Lefel. Bydd y teclyn ar-lein hwn yn darganfod dy lefel trwy ofyn cwestiynau i wirio dy sgiliau Darllen, Gwrando, Siarad ac Ysgrifennu.