Dych chi'n gweithio yn y sector creadigol? Mae’r cwrs preswyl dwys am ddim hwn yn cael ei ddarparu gan Nant Gwrtheyrn, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector creadigol sydd yn ddechreuwyr yn y Gymraeg, gan roi cyfle i ddysgwyr ganolbwyntio’n llawn ar ddysgu’r Gymraeg mewn lleoliad preswyl cefnogol.
Lleoliad: Campws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad: 13–17 Ebrill 2026
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
Pobl sy’n gweithio yn y sector creadigol
Dechreuwyr yn y Gymraeg – does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ddysgu’r Gymraeg (lefel Mynediad)
Mae lleoedd ar y cwrs yn gyfyngedig.
Cwblhewch y ffurflen isod i fynegi diddordeb, a byddwn yn cysylltu gyda rhagor o fanylion a’r camau nesaf, gan gynnwys unrhyw asesiad lefel syml os oes angen.