Cwrs Mynediad a Sylfaen
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs dwys i ddechreuwyr sy’n cyflwyno geirfa, patrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Mi fyddwch yn cwblhau tair lefel – Mynediad A1, Sylfaen A2 a Chanolradd B1 – mewn blwyddyn academaidd.
Cwrs dysgu cyfunol ydy hwn, sy'n cynnwys gwersi rhithiol dan arweiniad tiwtoriaid (Zoom) ac unedau hunan-astudio y bydd angen i chi eu cwblhau ar-lein cyn y gwersi. Fel arfer, mae’n cymryd hyd at chwe blynedd i gwblhau tair lefel ar gwrs hamddenol sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos. Felly, os oes gynnoch chi’r amser i ymroi i ddysgu ac os dach chi am wneud cynnydd cyflym, dyma’r cwrs i chi.
Rhestr Wirio Offer TG
Mi fyddwch chi angen cyfrifiadur / gliniadur / tabled efo meicroffon a chamera i gymryd rhan yn y gwersi. Mi fydd angen i chi fod â’ch camera ymlaen yn ystod gwersi er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses ddysgu.
Gostyngiadau a Chymorth Ariannol
Cofrestrwch cyn 30 Medi i dderbyn gostyngiad o 50%. Defnyddiwch y cod disgownt WELSH26wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim i:
- ddysgwyr ifainc (18–25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru
Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalen ar y wefan neu anfonwch e-bost: dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol ar gael drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n gallu helpu efo costau ychwanegol fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio - https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfrau Cwrs
Mi fydd angen i chi brynu fersiwn Gogledd Cymru o’r llyfrau cwrs Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Dach chi’n medru prynu’r llyfrau ar-lein - gwales.com, neu be‘ am gefnogi’ch siop lyfrau leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.