Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Yn y gymuned neu'n rhithiol
Croeso

Chwilio am gwrs Dysgu Cymraeg? Mae llawer o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael.

Dych chi’n gallu dysgu Cymraeg mewn dosbarth wyneb yn wyneb, neu mewn dosbarth rhithiol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael isod, neu dewiswch y botwm canlynol er mwyn chwilio am gwrs.

Darparwyr Lleol

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn gweithio gyda 9 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru.  Dewiswch y botwm isod i ddysgu mwy am gyrsiau a gweithgareddau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi.

Lefelau Dysgu

Mae pum lefel wahanol – o ddechreuwyr i siaradwyr profiadol.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Math o gyrsiau

Mae sawl ffordd i ddysgu Cymraeg.

  • Dosbarth wyneb yn wyneb gyda thiwtor
  • Dosbarth rhithiol gyda thiwtor
  • Cwrs cyfunol (25% hunan-astudio ar-lein, 75% gyda thiwtor)

Dewiswch y botwm isod i wylio’r fideo er mwyn dysgu mwy am y gwahanol ddulliau.

Pa gwrs nesa?

Wedi gorffen un cwrs gyda Dysgu Cymraeg ac yn meddwl am y cwrs nesa? Cofiwch edrych ar bob opsiwn cyn cofrestru.

Dewiswch y botwm isod i wylio’r fideo er mwyn dysgu mwy.

Defnyddio eich Cymraeg

Mae'r gwersi Cymraeg yn lot fawr o hwyl, ond mae digon o gyfleoedd i chi ymarfer, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill hefyd.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.