Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Hunan-Astudio Byr

Croeso Cymraeg Gwaith
Gwybodaeth

Gallwch chi ddechrau dysgu Cymraeg trwy ddilyn y cwrs Hunan-astudio byr ar-lein ‘Croeso Cymraeg Gwaith'. Mae’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae wedi ei deilwra ar gyfer gwahanol sectorau hefyd.

‘Croeso ‘Nôl Cymraeg Gwaith’

Mae’r cwrs ‘Croeso ‘Nôl Cymraeg Gwaith’ yn gwrs 10 awr ddilynol fydd yn cyflwyno geirfa newydd, mewn sefyllfaoedd newydd, ac yn ymestyn eich geirfa mewn sefyllfaoedd penodol.

Mae’r cyrsiau yn 10 uned yr un (tua 10 awr o ddysgu), ac maent wedi'u rhannu'n Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).

Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau pob cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch eich cyflogwr yn y ddewislen wrth greu cyfrif).

Mae croeso i chi e-bostio cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru os oes angen mwy o wybodaeth

 

Ewch i'r cyrsiau drwy ddewis y linc isod:

Cwrs Gwella Cymraeg Gwaith

Mae’r cwrs 10 awr hwn ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ond sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u hyder wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Iaith gwaith a ddefnyddir yn y cwrs hwn.

 

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu: 

  • Deall nifer o’r prif reolau treiglo a’u defnyddio’n gywir.
  • Deall y gwahaniaeth rhwng geiriau sy’n edrych yn debyg ond sy’n wahanol o ran ystyr (e.e. a/â; ac/ag; maen/mae).
  • Defnyddio’r geiriau bach yn gywir (e.e. ar, am) a deall sut i’w newid (e.e. arna i, amdana i).
  • Trafod y gorffennol yn hyderus ac yn raenus.
  • Deall rhai o’r prif reolau sy’n gysylltiedig â geiriau gwrywaidd / benywaidd.
  • Defnyddio berfau amhersonol (e.e. edrychwyd; penderfynwyd) yn hyderus ac yn raenus mewn dogfennau fel cofnodion cyfarfodydd.
  • Deall sut i ddefnyddio’r cymal ‘bod’ yn gywir er mwyn cyfleu ‘that’ (e.e. fy mod i, eu bod nhw).
  • Deall y gwahaniaeth rhwng rhai patrymau Cymraeg a Saesneg, gan osgoi cyfieithu’n llythrennol o’r Saesneg.