Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Staffio a Llywodraethiant

Pwy ’dyn ni?
Pwy ’dyn ni?

Isod, mae gwybodaeth am strwythur staffio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ogystal â Bwrdd y Cwmni a’r Bwrdd Ymgynghorol. 

Dilynwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth. 

Cwrdd â’r tîm

Mae’r Ganolfan yn cyflogi 24 o staff llawn a rhan amser. 

O dan arweiniad y Prif Weithredwr, Dona Lewis, mae’r Ganolfan wedi’i rhannu’n bedair cyfarwyddiaeth.

Dewiswch y blwch isod i e-bostio Dona Lewis.

Llun o Donna Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan.
Llun o Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan.

Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol.

Y Gyfarwyddiaeth Strategol sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth ar gyfer pobl 16-25 oed, teuluoedd a’r Gweithlu Addysg.  

E-bost-meinir.ebbsworth@dysgucymraeg.cymru

Llun o Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan.

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu.

Y Gyfarwyddiaeth Dysgu ac Addysgu sy’n gyfrifol am agweddau cwricwlaidd.  

E-bost - helenprosser@dysgucymraeg.cymru 

Llun o Hannah Thomas, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu y Ganolfan.

Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu.

Y Gyfarwyddiaeth Marchnata a Chyfathrebu sy’n gyfrifol am recriwtio, ymgysylltu, cysylltiadau cyhoeddus a datblygu’r brand.  

E-bost - hannahthomas@dysgucymraeg.cymru

Llun o Lowri Bunford-Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu.

Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu.

Y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Datblygu sy’n gyfrifol am gyllid a systemau rheoli perfformiad a phrosiectau amrywiol, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer gweithluoedd.  

E-bost - lowri.bunford-jones@dysgucymraeg.cymru 

Bwrdd Cwmni 

Cwmni Cyfyngedig dan warant a heb gyfalaf cyfrannau yw’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Unig aelod y cwmni o dan y Memorandwm Cymdeithasu yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  

Aelodau’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yw: 

  • Yr Is-Ganghellor, Yr Athro Elwen Evans, KC 

  • Maria Stedman  

  • Geraint Roberts 

  • Emlyn Dole (Cadeirydd) 

Mae’r aelodau yma yn gyfarwyddwyr; mae aelodau anweithredol ychwanegol o blith staff y Ganolfan, yn ogystal ag Alun Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan, sy’n sylwedydd. 

Bwrdd Ymgynghorol 

O dan Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni, sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol, sy’n sicrhau bod y Ganolfan yn cyflawni ei hamcanion strategol, ac yn cyflenwi gwasanaethau i’r sector Dysgu Cymraeg. 

Aelodau’r Bwrdd Ymgynghorol yw: 

  • Rhian Griffiths  

  • Owain Gruffydd  

  • Tim Hartley  

  • Alan Jones  

  • Alun Jones (Cadeirydd) 

  • Josh Miles 

  • Steve Morris 

  • Nia Parry 

  • Hammad Rind