Beth yw'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Gendlaethol yw’r corff cenedlaethol sy’n arbenigo mewn dysgu a chaffael y Gymraeg, ac sy’n arwain ar y sector Dysgu Cymraeg.
Mae’r Ganolfan wedi creu un llwybr dysgu clir i helpu oedolion i ddod yn siaradwyr Cymraeg, gyda chyrsiau ac adnoddau ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i siaradwyr hyderus.
Mwy am waith y Ganolfan
Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda 10 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru.
Mae cyrsiau cymunedol ar gael, wyneb yn wyneb ac yn rhithiol, ac mae opsiynau hunan-astudio ar-lein.
Mae cynlluniau eang ar gyfer gweithleoedd, gan gynnwys y sector Iechyd a Gofal a Chwaraeon.
Mae rhaglen dysgu genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer pobl ifanc.
Mae pecyn o wasanaethau ar gyfer rhieni a gofalwyr, yn ogystal â cheiswyr lloches a ffoaduriaid.
Newyddion
Eisiau clywed am newyddion a straeon diweddara'r Ganolfan? Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Cylchlythyr i randdeiliaid
Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?
Tanysgrifiwch isod er mwyn derbyn ein cylchlythyr tymhorol i randdeiliaid.
Dych chi’n gallu darllen cylchlythyr Gwanwyn 2026 trwy ddilyn y ddolen isod.