Digwyddiad Dathlu Dysgu Cymraeg
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal digwyddiad arbennig yn Eisteddfod y Garreg Las, i ddathlu degawd o dwf yn y sector Dysgu Cymraeg.
Bydd seremoni wobrwyo yn rhan o’r digwyddiad, fydd yn gyfle i gydnabod gwaith caled tiwtoriaid, staff cefnogi ac arweinwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau dysgwyr.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 5.30pm ar ddydd Mawrth, 4 Awst ym Mhabell Llywodraeth Cymru, Maes D, Eisteddfod y Garreg Las.
Mae gwahoddiad i weithlu’r sector Dysgu Cymraeg i fynychu’r digwyddiad – i gadw eich lle, dilynwch y ddolen nesaf. Bydd angen cofrestru erbyn 1 Gorffennaf.
Gwobrau
Mae’r gwobrau, sy’n rhan o’r digwyddiad yn yr Eisteddfod, yn gyfle i gydnabod cyfraniad arbennig tiwtoriaid, staff cefnogi ac arweinwyr.
Dechrau Arni:
Tiwtor newydd (hyd at ddwy flynedd) sydd wedi ysbrydoli dysgwyr.
Ymrwymiad i gynyddu defnydd o’r Gymraeg:
Tiwtor sy’n annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.
Arloesedd a Mentergarwch:
Tiwtor sy’n defnyddio dulliau newydd a chreadigol i ddysgu.
Arweinyddiaeth Ysbrydoledig:
Arweinydd sy’n ysbrydoli cydweithwyr a dysgwyr yn gadarnhaol.
Cynnal Gwasanaeth Rhagorol:
Aelod o staff cefnogi sy’n cynnig gwasanaeth eithriadol i ddysgwyr a chydweithwyr.
Dilynwch y botwm isod er mwyn cael mwy o wybodaeth am bob categori.
Y Panel Dyfarnu
Bydd panel yn trafod yr enwebiadau ac yn dyfarnu'r gwobrau.
Dyma aelodau’r panel:
Alun Jones (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), Rhian Griffiths (Aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Ganolfan) a Myfanwy Jones (Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru).
Ffurflen enwebu
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gyflwyno ffurflen enwebu cyn y dyddiad cau. Edrychwn ymlaen at wobrwyo'r enillwyr yn Eisteddfod y Garreg Las.