Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Codi Hyder 

Iechyd a Gofal

Gwybodaeth

Ydych chi'n gallu siarad Cymraeg ond eisiau mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith yn y gwaith?

Mae'r cynllun Codi Hyder yn cynnig cefnogaeth un-i-un wedi ei deilwra i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn gweithio gyda thiwtor i ddatblygu'ch hyder a defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith.

Mae'r cynllun yn addas i bobl sydd wedi defnyddio'r Gymraeg o'r blaen – er enghraifft, wedi'u magu yn y Gymraeg neu wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg – ond sydd eisiau dechrau ei defnyddio eto gyda mwy o hyder.

Beth mae'r cynllun yn ei gynnwys?

  • Holiadur a sgwrs gychwynnol i ddeall eich anghenion.

  • Sesiynau codi hyder un-i-un dros gyfnod o dri mis.

  • Cymorth wedi ei deilwra i chi, gan gynnwys geiriau ac ymadroddion sydd eu hangen arnoch yn y gwaith.

  • Sesiynau ôl-ofal ar ddiwedd y cynllun.

  • Cyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg mewn grwpiau paned a sgwrs.

  • Cefnogaeth gan eich cyflogwr i gymryd rhan yn y cynllun.

Eisiau gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich sefydliad chi? Dewiswch y botwm isod er mwyn cysylltu.

Cynnwys y cynllun

Pam dilyn cwrs codi hyder?

Cofrestru diddordeb

Eisiau gwybodaeth am ba gefnogaeth codi hyder sydd ar gael i chi? Llenwch y ffurflen isod er mwyn cysylltu. 

Ffurflen

Cytuno i'r ymwadiad preifatrwydd (Mae modd darllen hwn ar waelod ein gwefan). Agree with privacy statement (This can be read at the bottom of our website). *