Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynllun Siarad Iechyd a Gofal

Ymarfer eich Cymraeg. Cefnogi cydweithwyr. Gwella gofal.

Beth yw'r Cynllun Siarad Iechyd a Gofal?

Mae'r cynllun yn dod â dau weithiwr iechyd a gofal ynghyd:

 - dysgwr Cymraeg, lefel Sylfaen neu uwch, sy'n awyddus i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn y gwaith, yn eu lleoliad clinigol

 - siaradwr Cymraeg hyderus sy'n barod i gefnogi'r dysgwr drwy sgwrsio'n rheolaidd.

Nid oes angen profiad fel tiwtor na hyfforddwr i gefnogi. Rôl y siaradwr hyderus yw cynnig cyfleoedd naturiol i ddefnyddio'r Gymraeg drwy sgyrsiau anffurfiol.

Mae ymuno'n syml:

Cofrestrwch ar-lein.

Byddwn yn eich paru â phartner addas.

Cewch gyfarfod yn rhithiol bob 2–4 wythnos.

Treuliwch tua awr y mis yn sgwrsio yn Gymraeg.

Mae'r trefniant yn hyblyg ac wedi'i gynllunio i ffitio o amgylch ymrwymiadau gwaith.

Dysgwyr

  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion.

  • Yn dysgu Cymraeg ar lefel Sylfaen neu'n uwch.

Cefnogwyr

  • Siaradwyr Cymraeg hyderus o unrhyw rôl neu gefndir o fewn y GIG.

  • Yn fodlon cefnogi cydweithiwr i ddatblygu ei hyder wrth siarad Cymraeg.

Bydd y cynllun yn eich helpu i:

 - adeiladu hyder wrth siarad Cymraeg

 - defnyddio'r Gymraeg yn fwy naturiol yn y gweithle

 - cefnogi cydweithiwr i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg

 - cyfrannu at ddarparu gwasanaethau iechyd mwy dwyieithog

 - ehangu eich rhwydwaith proffesiynol drwy gyfarfod cydweithwyr o bob rhan o Gymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â: iechydagofal@dysgucymraeg.cymru

Cofrestru

Eisiau cymryd rhan yn y cynllun?

- Dewiswch y botwm cywir isod er mwyn cofrestru fel dysgwr neu siaradwr.

Logo Prifysgol Abertawe

Diolch i Dr Rob Morgan ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad wrth ddatblygu'r cynllun siarad ar gyfer y gweithlu Iechyd a Gofal.