Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Blasu (Cyn A-1)

Iechyd a Gofal
Gwybodaeth

Mae'r cyrsiau Blasu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac sy'n newydd i'r Gymraeg. Maent yn dysgu geiriau ac ymadroddion syml i'w defnyddio yn y gwaith.

Mae rhai cyrsiau ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, fel Croeso 1. Mae eraill wedi'u cynllunio ar gyfer rolau neu feysydd gwaith penodol, fel gofal lliniarol.

Mae'r cyrsiau'n amrywio o 1 i 10 uned. Gallwch astudio yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. Mae pob cwrs ar lefel Cyn-A1 (Cyn-Fynediad), CEFR. Mae cyrsiau blasu gyda thiwtor hefyd ar gael.

Mae mwy o wybodaeth isod neu e-bostiwch iechydagofal@dysgucymraeg.cymru

Logo Mwy na Geiriau / More than just words

Cyrsiau Croeso Gyda Thiwtor

Mae Croeso 1 yn gwrs 1.5 awr o hyd, gyda thiwtor, i'ch helpu i ddechrau defnyddio Cymraeg syml yn y gweithle. Gall hyd yn oed ychydig o eiriau Cymraeg wneud gwahaniaeth mawr, gan helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus a chartrefol wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae fersiwn hunan-astudio o'r cwrs ar gael yn yr adran 'Cyrsiau Blasu (Cyn-A1) Iechyd a Gofal' isod.

Croeso 1 yw'r cwrs Lefel Cwrteisi sy'n cefnogi strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru, a dyma’r cam cyntaf wrth ddysgu Cymraeg i unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cynigir 12 cwrs Croeso 1 gyda thiwtor bob wythnos. Defnyddiwch y botymau isod i gadw eich lle ar gwrs Croeso 1 ym mis Medi / Hydref 2026.