Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Allegra

Holi Allegra

Mewn seremoni wobrwyo wedi’i chynnal gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys, Sir Gâr – un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – ar faes Eisteddfod y Garreg Las, derbyniodd Allegra Sona Pollock wobr ‘Dysgwr Gweithlu Addysg 2025/2026’.

Roedd y wobr yn cydnabod dysgwr sydd wedi dangos ymrwymiad arbennig i ddysgu'r Gymraeg ac sy'n defnyddio'r iaith i wneud gwahaniaeth yn y gweithle. Mae Allegra, sy’n gynorthwyydd mewn ysgol gynradd, ac yn fam i ddau o blant bach, yn ysbrydoli ac yn annog plant yn yr ysgol a’i phlant ei hun i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg.

Daw Allegra o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo ac mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn ei bywyd pob dydd. 

Buon ni’n holi Allegra am ei thaith iaith...

Pam penderfynu dysgu Cymraeg?

Dw i wedi teithio llawer yn ystod fy mywyd a thrwy hynny, dw i wedi dod i werthfawrogi diwylliannau gwahanol. Pan ro’n i’n chwilio am rywle i fyw ym Mhrydain, ges i fy swyno gyda thirlun godidog Cymru a’i threftadaeth ieithyddol gyfoethog.

Ble dych chi’n dysgu Cymraeg?

Fel Cynorthwyydd Lefel Uwch yn Ysgol Gatholig Padarn Sant, dw i wedi cael llawer o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Gwnes i basio’r arholiad Mynediad (A1) yn ddiweddar, diolch i fy nhiwtor gwych, Rhiannon Taylor. Yr hyn sy’n fy nghymell i wella fy sgiliau Cymraeg yw’r plant ifanc dw i’n eu dysgu.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Y peth gorau am ddysgu Cymraeg yw gallu mynegi fy hun yn y gymuned yn hyderus o ddydd i ddydd, gan ddefnyddio ymadroddion Cymraeg sylfaenol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mae’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at fy ngallu i ymdrin â sawl iaith, sydd eisoes yn gyfoethog o ddysgu Lladin, a’r gallu i siarad tafodieithoedd Affricanaidd, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg.

Llongyfarchiadau ar ennill gwobr ‘Dysgwr Gweithlu Addysg’. Sut deimlad oedd derbyn y wobr hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Dw i’n ddiolchgar iawn am ennill y wobr ‘Dysgwr Gweithlu Addysg’ yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las. Dw i’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod i’n gallu gwneud cysylltiad â’r Gymraeg, sy’n iaith fyw, ac sy’n un o ieithoedd hynaf Ewrop, a chael y cyfle i archwilio ei llenyddiaeth, ei barddoniaeth, a’i hunaniaeth ddiwylliannol.

Unrhyw gyngor i eraill sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg yn hygyrch, ac mae’r profiad wedi bod yn ddi-straen ac yn llawer o hwyl. Mae’r Gymraeg yn drysor ieithyddol, a dw i mor falch o allu ei siarad.