Holi Caroline
Mae Dr Caroline Jones yn Bennaeth Seicoleg Plant ar gyfer Gwynedd a Môn, ac yn gweithio fel seicolegydd clinigol ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Symudodd Caroline i Ogledd Cymru yn 2004 i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Bellach, mae’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn ei gwaith ac efo’i theulu.
Yma, ’dyn ni’n holi Caroline am ei thaith i ddysgu’r iaith…
Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw ger Llanrug efo fy nheulu, ond ces i fy magu yn Llundain.
Pam dysgu Cymraeg?
Ro’n i wedi fy swyno gan yr arwyddion dwyieithog, ac eisiau gwybod sut i ynganu’r enwau. Hefyd, ro’n i eisiau dangos parch at y diwylliant, a chyfathrebu gyda chleifion yn well.
Sut wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dechreuais gyda chwrs Wlpan ym Mhrifysgol Mangor. Dw i wedi gwneud llawer o gyrsiau dros y blynyddoedd, fel rhai Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyrsiau yn Nant Gwrtheyrn. Nawr, dw i’n cael gwersi un i un a sesiynau grŵp lefel Uwch.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg yn y gwaith?
Ydw, dw i’n defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd. Dw i’n siarad Cymraeg efo cydweithwyr a theuluoedd, a dw i hefyd yn anfon e-byst dwyieithog.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Ydw, dw i’n siarad Cymraeg gartref efo fy mhlant, sy’n ddwyieithog. Dw i hefyd yn siarad Cymraeg yn y gymuned ac yn mwynhau sgwrsio gyda dysgwyr eraill yn ystod ‘Cinio Clebran’.
Pam bod cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg yn bwysig?
Mae’n hanfodol er mwyn siarad efo plant a deall eu hanghenion yn eu hiaith eu hunain.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am siarad Cymraeg?
Dw i’n mwynhau gallu cyfathrebu ag eraill a gweld yr effaith gadarnhaol y mae hynny'n ei gael.
Beth faset ti’n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried dysgu Cymraeg?
Defnyddiwch y geiriau sydd gennych chi eisoes, ac ewch amdani!