Holi Katherine
Mae Katherine Grieb yn byw yn Virginia yn yr Unol Daleithiau, a dros yr haf, mi wnaeth hi sefyll yr arholiad Dysgu Cymraeg lefel Sylfaen yng Nghymru.
Mae’n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae eisoes wedi cofrestru i ddilyn cwrs lefel Canolradd ym mis Medi.
Yma, ’dyn ni’n holi Katherine am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Ers faint dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg ers pedair blynedd.
Sut dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n mynychu dosbarth ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Dw i’n defnyddio Duolingo bob dydd hefyd.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg a phenderfynu teithio o Virginia i Gymru?
Mi wnes i astudio cyfraith canon ym Mhrifysgol Caerdydd a chlywed yr iaith am y tro cyntaf. Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd mwyaf prydferth y byd.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Y peth gorau ydy pan dw i’n cael yr ateb yn gywir, heb orfod chwilio am yr ateb!
Beth ydy eich nod gyda’r Gymraeg yn y dyfodol?
Dw i’n gobeithio gallu pregethu a dysgu trwy’r Gymraeg rhyw ddiwrnod yng Nghymru.
Sut brofiad oedd sefyll yr arholiad yng Nghymru?
Roedd yn brofiad gwych. Mae’r tiwtoriaid yn arbennig. Maen nhw’n cefnogi eu dysgwyr pob cam o’r ffordd. Dw i mor ddiolchgar fy mod yn gallu dysgu Cymraeg ar-lein.!
Dych chi wedi teithio o amgylch Cymru?
Mae Cymru mor hardd. Fy hoff le ydy’r gadeirlan yn Nhyddewi, ond mi wnes i hefyd fwynhau ymweld â’r amgueddfa yn Aberystwyth, oherwydd mi wnes i fwynhau gweld gwaith yr arlunydd a’r bardd David Jones.