Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Kaye

Holi Kaye

Mae Kaye Prothero, sy’n gweithio fel Ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi manteisio ar gwrs Codi Hyder yn ddiweddar er mwyn magu ei hyder i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac yn gymdeithasol.

Mae’r cyrsiau Codi Hyder yn rhan o ddarpariaeth eang y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal, er mwyn cynyddu a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu.

Buon ni’n holi Kaye am ei phrofiadau ar y cwrs...  

Dwed ychydig amdanat ti dy hun...

Kaye dw i. Dw i’n byw ym Mhontlliw ger Abertawe. Ges i fy magu yn Llanelli mewn teulu dwyieithog. Ges i addysg Gymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Gyfun y Strade.

Ar ôl gadael yr ysgol, do’n i ddim yn siŵr pa yrfa i’w dilyn, felly, ar ôl cyfnod byr iawn ym Mhrifysgol Caerdydd, es i weithio yng Nghanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Post Brenhinol fel Cynghorydd Dwyieithog. Treuliais i chwe mlynedd yn y cwmni mewn rolau gwahanol cyn gadael i astudio Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. 

Beth yw dy rôl a ble wyt ti’n gweithio?

Dw i’n gweithio fel Ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, yn goruchwylio timau clinigol Trawma ac Orthopedig.

Sut mae’r sesiynau codi hyder wedi dy helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy waith bob dydd?

Ro’n i’n hapus yn cynnal sgyrsiau anffurfiol gyda chleifion, teuluoedd a chydweithwyr ond ro’n i wedi colli hyder i siarad yn ffurfiol neu’n glinigol yn y Gymraeg. Ro’n i hefyd wedi anghofio llawer o’r iaith ysgrifenedig, ac yn cael anhawster wrth ysgrifennu pethau fel negeseuon e-bost neu ddisgrifiadau swyddi. Ro’n i hefyd yn anghyfarwydd â thermau clinigol, fel rhannau’r corff, ac wrth esbonio ymarferion i gleifion.

Oedd unrhyw agweddau penodol o’r hyfforddiant wedi dy helpu?

Gyda help Seren, fy nhiwtor, fe wnaethon ni greu rhestr o eiriau fydden i’n eu defnyddio’n aml gyda chleifion. Buon ni hefyd yn darllen taflenni gwybodaeth a disgrifiadau swyddi yn y Gymraeg i ymarfer darllen iaith ffurfiol. Trwy wneud hyn, des i’n fwy hyderus yn defnyddio’r iaith, a dechreuais i anfon negeseuon e-bost, yn ogystal â dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg gyda fy nghydweithwyr. Wrth wneud hyn, dangosodd aelodau eraill yn y tîm ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg felly trefnodd Seren sesiwn flasu ar eu cyfer nhw hefyd!

Sut mae’r hyfforddiant codi hyder wedi helpu i gynyddu dy hyder i ddefnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r gwaith?  

Ar ôl hyfforddi yn Lloegr a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu yn bennaf yn Saesneg, ro’n i wedi treulio nifer o flynyddoedd yn siarad ychydig iawn o Gymraeg. Pan gafodd fy mab ei eni, dechreuais i siarad fwy o Gymraeg gydag e ac ro’n i’n awyddus iddo dderbyn addysg ddwyieithog. Nawr, mae e’n mynychu ysgol Gymraeg, ac mae’r cyrsiau wedi fy helpu i’w gefnogi e gyda’i waith cartref a chyfathrebu’n hyderus gyda’i athrawon heb droi i’r Saesneg.

Beth faset ti’n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried mynychu hyfforddiant codi hyder?

Peidiwch ag oedi, dyw hi byth yn rhy hwyr! Mae’r sesiynau yn hollol anffurfiol, ac yn gyfle i chi ymarfer eich sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.