Holi Rosie Hughes
Mae Rosie Hughes yn chwarae pêl-droed i Dîm Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae’n dilyn cwrs Dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’i darparwr lleol, Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria.
Mae Rosie yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd yn ystod sesiynau ymarfer y clwb, ac yn mwynhau rhannu termau pêl-droed gyda chwaraewyr eraill.
Yma, ’dyn ni’n holi Rosie am ei thaith i ddysgu’r iaith…
Pam a phryd wnes di ddechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan o’n i’n blentyn yn yr ysgol. Ond ers ymuno â chlwb pêl-droed Wrecsam, dw i’n siarad mwy o Gymraeg ac yn mwynhau mynychu gwersi gyda’r tiwtor, Huw Birkhead.
Faint o Gymraeg wyt ti’n siarad bob dydd?
Dw i’n trio defnyddio ychydig o Gymraeg bob dydd, ac yn cyfarch pobl yn Gymraeg. Dw i’n mwynhau siarad Cymraeg gyda merched eraill y clwb, a rhannu termau pêl-droed Cymraeg gyda nhw.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu’r iaith?
Dw i’n mwynhau adeiladu hyder a dysgu mwy o eiriau newydd bob dydd.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i ti?
Dw i rŵan yn gallu siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau a fy nheulu, sy’n deimlad mor braf.
Unrhyw gyngor i bobl eraill sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Mae’r Gymraeg yn iaith mor hardd, ac mae angen mwy o bobl i siarad yr iaith. Ewch amdani!
Ydi rhai o ferched eraill y clwb yn dysgu Cymraeg hefyd?
Mi wnes i ddechrau siarad ychydig o Gymraeg yn y sesiynau ymarfer, felly mi wnaeth rhai o’r merched eraill ddangos diddordeb. Maen nhw wedi dechrau cael gwersi hefyd, felly ’dyn ni’n gallu ymarfer siarad Cymraeg gyda’n gilydd.
Beth nesaf gyda’r Gymraeg?
Dw i’n mynd i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod pobl newydd a siarad Cymraeg gyda nhw.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Choleg Cambria yn cydweithio i ddarparu ystod o gyfleoedd dysgu i chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam – i gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cefnogwyr Wrecsam | Dysgu Cymraeg
Llun: Rob Stead / Daniel Purdie