Holi Sarah
Holi Sarah Mae Sarah Merton yn dod o Gasnewydd. Dechreuodd ddysgu Cymraeg naw mlynedd yn ôl gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ogystal â gweithio yn Llyfrgell Abertyleri, mae Sarah yn diwtor Dysgu Cymraeg erbyn hyn ac yn mwynhau trefnu gweithgareddau i ddysgwyr yn yr ardal leol.
Yma, ’dyn ni’n holi Sarah am ei thaith i ddysgu Cymraeg…
Pam penderfynu dechrau dysgu Cymraeg?
Dw i wrth fy modd yn gwylio pêl-droed. Haf 2016 oedd yr haf gorau erioed - es i i Ffrainc i gefnogi Cymru yn yr Ewros. Yn ystod y daith, roedd pobl yn siarad Cymraeg yn y dorf. Mi wnes i sylweddoli pa mor bwysig ydy'r iaith i Gymru, felly roedd rhaid i fi ddechrau dysgu.
Soniwch ychydig am eich gwaith gyda’r llyfrgell.
Pan ddechreuais i weithio yn Llyfrgell Abertyleri, doedd dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn yr ardal. Felly, mi wnes i ddechrau Clwb Cymraeg wythnosol i bobl ymarfer sgwrsio. Mae’r grŵp wedi tyfu llawer. Y llynedd, cefais wobr 'Pencampwr y Gymraeg' gan Gyngor Blaenau Gwent.
Ble dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu dosbarth lefel Mynediad ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, ac wrth fy modd. Mi wnes i drefnu mynd â’r dosbarth i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd er mwyn dangos i’r dysgwyr bod y Gymraeg yn iaith fyw.
Dych chi’n trefnu teithiau cerdded i ddysgwyr?
Ydw, dw i'n mwynhau cerdded. Mae bod yn yr awyr agored yn llesol, ac mae enwau gwych ar blanhigion yn Gymraeg, er enghraifft 'llygad y dydd’.
Unrhyw gyngor i eraill sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg?
Mae dysgu Cymraeg fel bwyta cacen enfawr – allwch chi ddim ei bwyta ar unwaith! Rhaid cymryd un darn ar y tro, a dal ati.