Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Neges i ddysgwyr

Neges i ddysgwyr

Gair gan Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Helo, bawb,

Llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi ar eich gwaith caled yn ystod y flwyddyn - mae’n hyfryd gweld cymaint o bobl yn mwynhau dysgu Cymraeg gyda ni.

Dyma’r newyddion diweddaraf, a syniadau ar sut i ddefnyddio eich Cymraeg dros yr haf.  

Pob hwyl,

Dona

Dathlu degawd o dwf

Eleni, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed. Mae’n garreg filltir arbennig, ac mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg gyda ni – dros 20,000.

Diolch i chi am eich brwdfrydedd a’ch angerdd dros y Gymraeg - ’dyn ni mor falch o gefnogi pob un ohonoch ar eich taith iaith.

Cynnig Cyw Cynnar – disgownt 50%

’Dyn ni’n cynnig disgownt Cyw Cynnar ar eich cwrs Dysgu Cymraeg nesaf. Defnyddiwch y côd CYW26 cyn 31 Gorffennaf i dalu £50 yn lle £100.

Dilynwch y ddolen i gofrestru ar eich cwrs nesaf: Chwilio am gwrs | Dysgu Cymraeg

Nabod rhywun sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Mae cyrsiau newydd i ddechreuwyr yn dechrau ym mis Medi.

Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: Cyrsiau mis Medi | Dysgu Cymraeg

Llysgenhadon Dysgu Cymraeg

Mae cynllun Llysgenhadon Dysgu Cymraeg newydd gyda ni. Bydd pedwar llysgennad yn rhannu eu profiadau personol o’r iaith ac yn tynnu sylw at y sector Dysgu Cymraeg.

Darllenwch fwy am Aleighcia Scott, Tori James, Katie Owen, ac Ian Gwyn Hughes, drwy ddilyn y ddolen nesaf: Y Ganolfan Genedlaethol yn cyhoeddi cynllun Llysgenhadon Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Defnyddio eich Cymraeg

Mae pob math o gyfleoedd i chi ymarfer, cymdeithasu a mwynhau defnyddio’r Gymraeg dros yr haf. 

Dilynwch y ddolen am syniadau: Defnyddio eich Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Eisteddfod y Garreg Las 2026

Dych chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd o 1-8 Awst? Cofiwch ddod draw i stondin y Ganolfan ym Maes D, y pentref Dysgu Cymraeg, am sgwrs!

I ddysgu mwy am yr Eisteddfod a rhaglen yr wythnos, dilynwch y ddolen: Yr Eisteddfod Genedlaethol | Dysgu Cymraeg

Cysylltu

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, mae croeso i chi gysylltu ar swyddfa@dysgucymraeg.cymru. ’Dyn ni yma i’ch helpu.

Dymuniadau gorau,

Pawb yn Dysgu Cymraeg

Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol!