Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop. Mae’r ŵyl yn dathlu’r celfyddydau, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant yng Nghymru. Mae’r Eisteddfod yn y de a’r gogledd bob yn ail flwyddyn. Mae cystadlaethau, sioeau, gigs, stondinau a llawer iawn mwy o weithgareddau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.
Amserlen y Ganolfan yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
Yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau ar gyfer dysgwyr ym Maes D, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn cyfrannu at ddigwyddiadau partneriaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Gallwch lawrlwytho copi PDF o'r amserlen drwy ddewis y ddolen isod.
Mae Maes D yn ardal i ddysgwyr Cymraeg ar y maes. Mae’n gyfle i ddysgwyr gymdeithasu a chwrdd â dysgwyr eraill, cystadlu, casglu gwybodaeth, a chael hwyl yn defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg.
Dewiswch y ddolen nesaf i weld amserlen Maes D yn Eisteddfod y Garreg Las 2026: Amserlen Maes D
Hanes yr Eisteddfod
Roedd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Roedd beirdd a cherddorion o bob rhan o Gymru wedi mynd a chystadlu am y gadair.
Cafodd yr Eisteddfod ‘fodern’ gyntaf ei chynnal yn Aberdâr yn 1861, ac ers hynny, mae wedi datblygu ac ehangu. Bydd Eisteddfod y Garreg Las eleni yn cael ei chynnal 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi.