Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Neges i ddysgwyr

Neges i ddysgwyr

Croeso!

Helo! Croeso cynnes iawn i chi ar ddechrau tymor newydd.

’Dyn ni wrth ein bodd eich bod chi wedi cofrestru ar gwrs gyda ni a ’dyn ni yma i’ch cefnogi ar bob cam o’ch taith.

Dyma wybodaeth ddefnyddiol i chi wrth i chi baratoi ar gyfer y tymor.  

Pob lwc gyda’r dysgu!

Dona Lewis,
Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Amdanom ni  

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg, ac mae’n gweithio gyda 10 darparwr yng Nghymru i gynnal cyrsiau amrywiol. Cwblhaodd dros 20,000 o bobl ein cyrsiau yn 2024-2025, y nifer uchaf erioed. Mae croeso i bawb fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol | Dysgu Cymraeg

Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

Rhwng 10-16 Hydref, bydd BBC Radio Cymru ac S4C yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. Mae’n gyfle i glywed storïau ysbrydoledig am ddysgwyr a mwynhau eitemau a rhaglenni ar gyfer dysgwyr a siaradwyr newydd. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Defnyddio eich Cymraeg

Chwilio am gyfleoedd i ymarfer a mwynhau eich Cymraeg y tu allan i’r gwersi? Mae llawer o syniadau ar ein tudalen ‘Defnyddio eich Cymraeg’, gan gynnwys:

  • Adnoddau defnyddiol

  • Cyfres lyfrau Amdani

  • Gwybodaeth am S4C a BBC Radio Cymru

  • Cynllun Siarad

Dilynwch y ddolen nesaf i weld be sy ar gael: Defnyddio eich Cymraeg | Dysgu Cymraeg

Newyddion

Mae’r adran Newyddion yn llawn erthyglau a blogiau diddorol, yn ogystal â gwybodaeth am ddigwyddiadau i gefnogi eich dysgu. Am y newyddion diweddaraf, dilynwch y ddolen nesaf: Newyddion | Dysgu Cymraeg

Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd – Facebook, Instagram a LinkedIn

Cronfa

Mae’n bosib cael help ariannol gyda chostau gofal plant, adnoddau a theithio. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Cronfa Ariannol | Dysgu Cymraeg

Cysylltu

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar swyddfa@dysgucymraeg.cymru gyda unrhyw gwestiynau neu sylwadau.

Diolch yn fawr!

Pawb yn Dysgu Cymraeg