Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Diddordeb i weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg?

Cwrs hyfforddi ar gyfer darpar diwtoriaid o gefndiroedd mwyafrif byd eang
Cwrs hyfforddi yn Nant Gwrtheyrn

Siarad Cymraeg neu’n dilyn cwrs ar lefel Uwch neu lefel Gloywi? Perthyn i gefndir mwyafrif byd eang? Diddordeb mewn gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg?

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn trefnu cwrs hyfforddi yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn, rhwng 6-8 Mawrth 2026 er mwyn cynyddu niferoedd y tiwtoriaid Dysgu Cymraeg sydd o gefndiroedd mwyafrif byd eang.

Mae'r cwrs hyfforddi yma yn cael ei ariannu'n llawn gan y Ganolfan Genedlaethol. Yn ogystal, cynigir costau teithio hyd at £100 y pen a Bwrsariaeth o £180 i bob unigolyn sy’n cymryd rhan.

I ddysgu mwy am waith a chyfrifoldebau tiwtor Dysgu Cymraeg, dilynwch y ddolen isod:

Tiwtoriaid Dysgu Cymraeg

I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod.

Nant Gwrtheyrn

Ffurflen cofrestru diddordeb

Cytuno i'r hysbysiad preifatrwydd: