Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.
- Yn 2017-2018, roedd 12,680 o ddysgwyr unigryw.
- Yn 2018-2019, roedd 13,260 o ddysgwyr unigryw.
- Yn 2019-2020, roedd 17,505 o ddysgwyr unigryw, dyma’r flwyddyn eithriadol ble bu cynnydd yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar gychwyn cyfnod y pandemig.
- Yn 2020-2021, roedd 14,965 o ddysgwyr unigryw.
- Yn 2021-2022, roedd 15,260 o ddysgwyr unigryw, cynnydd o 2% o’i gymharu â 2020-2021.