Hysbysiad Preifatrwydd Dysgwyr
Beth yw Hysbysiad Preifatrwydd?
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (“y Ganolfan”) yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Pa wybodaeth fydd y Ganolfan yn ei chasglu?
Gwybodaeth bersonol: eich enw, rhywedd, ethnigrwydd, cyfeiriad, dyddiad geni
Gwybodaeth iechyd: unrhyw broblemau yn ymwneud ag iechyd neu anawsterau dysgu sydd gennych
Gwybodaeth cwrs: os ydych wedi cwblhau Cwrs Dysgu Cymraeg o’r blaen a’ch perfformiad ar y cwrs
Sut rydym yn defnyddio'ch data personol?
Bydd y Ganolfan yn prosesu eich gwybodaeth at ddibenion:
Eich ymrestru ar gwrs a dyrannu darparwr i chi
Darparu cefnogaeth yn ystod eich amser ar y Cwrs ac wedi hynny (lle bo angen)
Rhedeg y cwrs o ddydd i ddydd
Monitro cwblhau a chynnydd ar y cwrs
Adrodd ar bresenoldeb a sut mae’r cwrs yn mynd
Rhannu gwybodaeth am gyrsiau eraill gyda chi
O ble bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth?
Gwybodaeth a roddwch i’r Ganolfan - bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych pan fyddwch yn cysylltu â’r Ganolfan neu pan fyddwch yn ymrestru trwy’r Ffurflen Gofrestru ar un o’r cyrsiau.
Gwybodaeth o’r adnoddau yr ydych yn eu cwblhau ar-lein
Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych gan y darparwr.
Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych o ffynonellau eraill megis tiwtor eich cwrs.
Y sawl fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Cyllidir y Ganolfan a’r darparwyr cwrs gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn eich dyrannu i ddarparwr penodol, sicrhau bod y cyrsiau yn cael eu rhedeg yn effeithiol, darparu adborth am faint sy’n cymryd y cyrsiau ac i adrodd am y modd y defnyddir y cyllid, gallwn rannu eich data personol gyda’r darparwr.
Gall y Ganolfan rannu eich gwybodaeth bersonol:
Gyda’r Darparwyr;
Gyda Llywodraeth Cymru;
Gyda CBAC at ddibenion cofrestru ar Arholiadau Dysgu Cymraeg i Oedolion
Gyda chyflogwyr at ddibenion y Cynllun Cymraeg Gwaith
Gydag awdurdodau rheolaethol, llysoedd ac asiantaethau’r llywodraeth i gydymffurfio â gorchmynion cyfreithiol, gofynion cyfreithiol neu reolaethol a cheisiadau’r llywodraeth; a/neu
Gyda’n hymgynghorwyr a gwerthuswyr cyfreithiol a phroffesiynol eraill.
Sut ydym yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel?
Rydym yn storio eich data yn ein systemau TG diogel. Dim ond unigolion sydd angen mynediad at y dibenion a amlinellir uchod sy’n gallu cael mynediad i’ch data personol.
Oes modd cwiro unrhyw wybodaeth?
Oes, os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei chywiro.
Oes modd cael copi o'ch gwybodaeth bersonol?
Oes, gallwch wneud ‘cais am fynediad deiliad data’ sy’n eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch.
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd y Ganolfan yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unig am y cyfnod o amser y byddwch yn fyfyriwr ar y cwrs ac am 6 blynedd wedi cwblhau’r cwrs hwnnw.
Sut allwch chi gysylltu â ni?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
03003234324
swyddfa@dysgucymraeg.cymru