Cronfa Ariannol Wrth Gefn
Eisiau cymorth ariannol wrth ddysgu Cymraeg?
Mae cymorth ar gael drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn i Ddysgwyr.
I fod yn gymwys, mae angen i chi:
fod wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg gydag un o Ddarparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
fod yn 16 mlwydd oed neu hŷn ar 31 Awst 2025,
fod yn breswylydd sefydlog, cyfreithiol, yn y DU, a hynny ers o leiaf 3 blynedd; neu gwrdd â'r amodau preswylio yn y Canllaw Cymhwysedd Dysgwyr ar gyfer cyllid ôl-16 (manylion yn y polisi ar y wefan),
gadarnhau y basai’n anodd cael mynediad i’ch astudiaethau heb gymorth gan y Gronfa achos fod ystyriaethau ariannol yn rhwystr, e.e. dych chi ar incwm isel.
Mae posib cael cymorth ariannol i'ch helpu gyda chostau fel
gofal plant
ffi arholiadau
adnoddau (e.e. llyfrau, offer technegol)
costau teithio a pharcio
*Nid oes modd hawlio cymorth at ffioedd cwrs
Mae dogfennau 2024-2025 isod. Bydd rhai 2025-2026 yn ymddangos yma cyn bo hir.