Croeso i'r cam cyntaf o ddysgu Cymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector iechyd a gofal.
Mae'r cwrs byr yma yn cynnwys geiriau a chyfarchion syml i bobl sy'n newydd i'r Gymraeg, a gobeithio y bydd yn eich annog i ddysgu mwy.
Mae Strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob gweithiwr yn y sector iechyd a gofal fod â lefel cwrteisi o Gymraeg erbyn 2027.
Mae creu gofod a chyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru yn hollbwysig, ac mae siarad hyd yn oed ambell air yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd.
Felly ewch amdani a cychwynnwch eich taith iaith yma!