Cyfle i staff Iechyd a Gofal yng Nghymru dreulio pum diwrnod ar gwrs Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn.
Dyddiadau nesaf:
- 7-11 Hydref 2024
- 10-14 Mawrth 2025
Cyfle i staff Iechyd a Gofal yng Nghymru dreulio pum diwrnod ar gwrs Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn.
Dyddiadau nesaf:
Ymarfer
Mae'r cwrs ar gyfer pobl sy'n gallu siarad Cymraeg ar lefel Canolradd ac Uwch, ond sydd eisiau ymarfer a magu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith. Bydd gweithdai gyda thiwtoriaid arbenigol, a digon o gyfleoedd i fwynhau ymarfer siarad Cymraeg.
Ymlacio
Bydd rhaglen o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi'r dysgu, gan gynnwys ioga a meddwlgarwch, cerddoriaeth gyda'r nos a theithiau cerdded ar hyd yr arfordir.
Mwy o wybodaeth
Byddwn yn trefnu sgwrs anffurfiol dros y ffôn cyn y cwrs, i sicrhau eich bod yn cofrestru ar y lefel gywir.
Bydd y cwrs yn gorffen am 1yp ddydd Gwener. Dych chi'n gallu aros y nos Sul cyn i'r cwrs gychwyn, am gost o £60 gwely a brecwast.
Eisiau gwybodaeth am Gyrsiau Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn? Llenwch y ffurflen isod er mwyn cysylltu.