Arholiadau
Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.
Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf.
Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop.
Cymhwyster | Lefel yn y fframwaith | Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop |
|---|---|---|
Mynediad | Mynediad | A1 |
Sylfaen | 1 | A2 |
Canolradd | 2 | B1 |
Uwch | 3 | B2 |
GWYBODAETH
Dyma'r dyddiadau ar gyfer arholiadau 2027:
Lefel | Dyddiad yr arholiad | Dyddiad cau ar gyfer cofrestru |
A1 Mynediad Ionawr | 29 Ionawr 2027 | 9 Rhagfyr 2026 |
A1 Mynediad Dydd | 15 Mehefin 2027 | 1 Mawrth 2027 |
A1 Mynediad Nos | 16 Mehefin 2027 | 1 Mawrth 2027 |
B1 Canolradd | 18 Mehefin 2027 | 1 Mawrth 2027 |
B2 Uwch | 23-24 Mehefin 2027 | 1 Mawrth 2027 |
A2 Sylfaen | 25 Mehefin 2027 | 1 Mawrth 2027 |
Bydd modd cofrestru i sefyll arholiadau Cymraeg 2027 trwy gysylltu gydâ'ch darparwr cwrs.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â darparwr cwrs.
Os dych chi’n dysgu ar gwrs sy’n cael ei gynnal gan un o'r darparwyr cyrsiau Dysgu Cymraeg, mae’r arholiadau am ddim.
Fel arall, rhaid cofrestru fel ymgeisydd preifat, a bydd ffi i’w dalu.
Os dych chi’n ansicr, cysylltwch â’ch darparwr cyrsiau lleol.