Cwrs Mynediad Rhan 1 a 2
Ynglŷn â'r cwrs
Manylion cyswllt Popeth Cymraeg:
✉ gwybod@popethcymraeg.cymru
📞 01745 812287
(Rhan 1 a 2) Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
Fel arfer mae'n cymryd tua 2 flynedd i gwblhau lefel (h.y. Mynediad, Sylfaen a.y.b.) os dach chi’n mynd i ddosbarth unwaith yr wythnos.
Mae’n bosib cwblhau lefel mewn blwyddyn ar gwrs dwys (4 awr neu fwy yr wythnos) neu ar Gwrs Cyfunol lle mae disgwyl i chi gwblhau o leiaf 2 awr o ddysgu annibynnol ar-lein cyn pob gwers.
Ar Gyrsiau Cyflym (8 awr yr wythnos) mae’n bosib cwblhau 2 lefel mewn blwyddyn.
💰 Gostyngiadau
Gostyngiad o 50% - defnyddiwch y côd WELSH26 i dalu dim ond £50 am y cwrs! Yn ddilys tan 30 Medi 2026.
Mae cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer:
- Pobl ifanc 18 - 25 oed
- Gweithwyr yn y sector addysg yng Nghymru - Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
📚 Beth fyddwch chi ei angen
Byddwch yn defnyddio llyfr cwrs Dysgu Cymraeg: Mynediad/Entry (A1) Fersiwn 2 - Gogledd Cymru/North Wales.
- Copi Digidol: Gallwch lawrlwytho copi pdf yma.
- Copi Caled: Gallwch brynu copi o’ch siop Gymraeg leol neu archebu copi ar-lein o www.ffolio.cymru.
Cymorth Ariannol: Cliciwch yma am fanylion Cymorth Ariannol.
Mae cynnal y cwrs yn ddibynnol ar niferoedd digonol o gofrestriadau. Rhoddir ad-daliad llawn os nad yw cyrsiau’n rhedeg a does dim cwrs addas arall ar gael.