Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2

Sylfaen 1 a 2 (Foundation 1 and 2)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: d-54068
Hyd: 32 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/09/2026
Dyddiad Gorffen: 21/06/2027
Amser + Diwrnod: 12:30 - 16:00 Dydd Llun
Tafodiaith: Gogledd
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain
£100.00
Lle ar ôl: 7
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 30/09/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Manylion cyswllt Popeth Cymraeg:

✉ gwybod@popethcymraeg.cymru

📞 01745 812287

(Rhan 1 a 2) Dyma gwrs sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.

Bydd y cwrs hwn yn dechrau o Uned 1 yn y llyfr Sylfaen ym mis Medi.

Fel arfer mae'n cymryd tua 2 flynedd i gwblhau lefel (h.y. Mynediad, Sylfaen a.y.b.) os dach chi’n mynd i ddosbarth unwaith yr wythnos.

Mae’n bosib cwblhau lefel mewn blwyddyn ar gwrs dwys (4 awr neu fwy yr wythnos) neu ar Gwrs Cyfunol lle mae disgwyl i chi gwblhau o leiaf 2 awr o ddysgu annibynnol ar-lein cyn pob gwers.

Ar Gyrsiau Cyflym (8 awr yr wythnos) mae’n bosib cwblhau 2 lefel mewn blwyddyn.

💰 Gostyngiadau

Gostyngiad o 50% - defnyddiwch y côd CYW26 i dalu dim ond £50 am y cwrs! Yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2026.

Mae cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer:

  • Pobl ifanc 18 - 25 oed
  • Gweithwyr yn y sector addysg yng Nghymru - Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

📚 Beth fyddwch chi ei angen

Byddwch yn defnyddio llyfr cwrs Dysgu Cymraeg Sylfaen - Fersiwn 2 (Gogledd Cymru).

Cymorth Ariannol: Cliciwch yma am fanylion Cymorth Ariannol.

Mae cynnal y cwrs yn ddibynnol ar niferoedd digonol o gofrestriadau. Rhoddir ad-daliad llawn os nad yw cyrsiau’n rhedeg a does dim cwrs addas arall ar gael.