Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Mynediad a Sylfaen

Mynediad a Sylfaen (Entry and Foundation)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: OB27-83-MS-de
Hyd: 33 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 14/09/2026
Dyddiad Gorffen: 31/07/2027
Amser + Diwrnod: 12:00 - 15:00 Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
£100.00
Lle ar ôl: 17
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 15/09/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Dyma gwrs dwys iawn ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion bob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Byddwn yn anelu i gwblhau Mynediad a Sylfaen ar y cwrs hwn.

Byddwn yn dysgu’r cwrs mewn ystafell ddosbarth rhithiol Zoom am 8 awr yr wythnos, am 33 wythnos fel hyn:

Dyddiau Llun 1-3pm Dyddiau Mercher 12-3pm; Dyddiau Gwener 12-3pm

Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrMynediadNewyddDe

’Dyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar ein cyrsiau i ddechreuwyr pur! Defnyddiwch y cod WELSH26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 30/09/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!