Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs wyneb yn wyneb i ddechreuwyr sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Mi fyddwch chi’n cwblhau rhan gyntaf o’r cwrs Mynediad ar y cwrs hwn.
Gostyngiadau a Chymorth Ariannol
Cofrestrwch cyn 30 Medi i dderbyn gostyngiad o 50%. Defnyddiwch y cod disgownt WELSH26 wrth gofrestru.
Mae cyrsiau Cymraeg am ddim i:
- ddysgwyr ifainc (18–25 oed)
- staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- y gweithlu addysg yng Nghymru
Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein tudalen ar y wefan neu anfonwch e-bost: dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Mae cymorth ariannol ar gael drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n gallu helpu efo costau ychwanegol fel gofal plant, adnoddau, teithio a pharcio - https://dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol/
Llyfr Cwrs
Mi fydd angen i chi brynu fersiwn Gogledd Cymru o’r llyfr cwrs Mynediad. Dach chi’n medru prynu’r llyfr ar-lein - gwales.com, neu be‘ am gefnogi’ch siop lyfrau leol?
Nodyn Pwysig
Mae angen isafswm nifer o gofrestriadau i sicrhau bod y cwrs yn hyfyw. Os na fydd digon o bobl yn cofrestru ar y cwrs, mi fyddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru i drafod yr opsiynau eraill sydd ar gael.
(Saesneg)
A face-to-face course for beginners, introducing vocabulary, basic language patterns and everyday phrases. The emphasis is on spoken Welsh. You will complete part one of the Mynediad course book on this course.