Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Dysgu Cymraeg dwys

Mae dewis o gyrsiau Dysgu Cymraeg dwys ar gael.
Croeso

Dych chi eisiau dysgu Cymraeg yn gyflym?  Mae llawer o gyrsiau Dysgu Cymraeg dwys ar gael.

Os dych chi eisiau:

  • Magu hyder i siarad Cymraeg bob dydd

  • Symud drwy’r lefelau Dysgu Cymraeg yn gyflym

  • Gwneud cynnydd sylweddol mewn blwyddyn

…yna beth am drio cwrs Dysgu Cymraeg dwys fis Medi?

Cyrsiau Dysgu Cymraeg dwys

Mae dewis o gyrsiau dwys ar gael ar draws Cymru, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.

Dilynwch y ddolen nesaf i weld rhestr o’r cyrsiau dwys sy’n dechrau fis Medi:

Charlotte Roberts

Dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys oedd y peth gorau wnes i, dw i mor falch i mi benderfynu mynd amdani achos mae’r Gymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr.

Danielle Pritchard

Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwrs Dysgu Cymraeg dwys i ymarfer Cymraeg bob dydd, cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a mwynhau’r broses.

Cysylltu â ni

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni, ’dyn ni yma i helpu.