Dyma gyfle i ddysgu yn annibynnol ar-lein. Mae hyn yn golygu y galli di ddilyn unedau'r cwrs ar dy gyflymder dy hun, ac ar amser sy'n gyfleus i ti. Bydd modd i ti gael mynediad at y cwrs unrhyw bryd, unrhyw le, gan ddefnyddio dy ffôn, llechen, neu gyfrifiadur (dim ond bod gen ti gyswllt gwe).
Yn ogystal â dilyn unedau hunan-astudio ar-lein, mae cefnogaeth tiwtor ar gael ar gyfer y cyrsiau yma. Mae hyn yn golygu y byddi di'n cael gwahoddiad i ymuno gyda sesiynau adolygu rhithiol, a sesiynau sgwrsio rhithiol. Mae'r cyfleoedd yma'n opsiynol. Bydd modd i ti hefyd gysylltu â thiwtor os oes gen ti gwestiwn am gynnwys y cwrs, a gall tiwtor roi adborth i ti ar dy dasgau.
Mae'r math hwn o gwrs ar gael ar lefel Mynediad, Sylfaen, a Chanolradd. Mae pob lefel yn cymryd tua 120 awr o ddysgu i gwblhau.