Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd dysgucymraeg.cymru
Byddwn ni’n diweddaru’r datganiad hwn yn flynyddol.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar dysgucymraeg.cymru.
Defnyddio dysgucymraeg.cymru
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynnal y wefan hon. Ein nod yw bod y wefan yn hygyrch i gymaint o bobl ag sy’n bosib. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy’n bosibl i’w ddeall.
Dilynwch y ddolen am gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio, os oes gyda chi anabledd: AbilityNet
Hygyrchedd dysgucymraeg.cymru
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid oes modd addasu uchder y llinell neu fwlch y testun
- nid yw nifer o’r hen ddogfennau PDF yn hygyrch
- nid oes modd symud i’r prif destun drwy ddefnyddio darllenydd sgrin
Adborth a manylion cyswllt
Pe hoffech wneud cais i dderbyn yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch drwy un o’r dulliau canlynol:
- e-bost: swyddfa@dysgucymraeg.cymru
- ffôn: 0300 3234324
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi gyda’r penderfyniad cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd dysgucymraeg.cymru
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch drwy un o’r dulliau canlynol:
- e-bost: swyddfa@dysgucymraeg.cymru
- ffôn: 0300 3234324
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio, sydd wedi’u rhestru isod.
Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2
Nodir y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:
Mae peth cynnwys a swyddogaethau e-ddysgu rhyngweithiol lle nad yw’n bosib ymgymryd â natur y dysgu mewn modd cwbl hygyrch (er enghraifft: dysgu ac asesu penodol mewn gwahanol ddisgyblaethau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae tasgau ac asesiadau penodol ar gyfer siarad ond os na allwch siarad ni fydd y dechnoleg a'r cynnwys yn gallu darparu ar gyfer cyfatebiaeth).
Oherwydd natur y pwnc – sef dysgu iaith - mae rhywfaint o gynnwys sain a fideo lle nad yw'n bosibl i is-deitlau, trawsgrifiad neu gapsiynau gyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hygyrch (e.e. fideo o wylio a chlywed sut mae llythyren neu lafariad yn cael ei ynganu).
Nid oes gan y fideos ffrydio byw testun egluro.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Bwriadwn ychwanegu dewisiadau testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Medi 2026 - mae hyn oherwydd y nifer fawr o ddelweddau a’r ffaith bod deunyddiau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2026, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd:
- Mae Grŵp Hygyrchedd mewnol wedi ei sefydlu.
- Cynhwysir adran ‘hygyrchedd’ yn rhan o briff pob tendr ar gyfer adnoddau a gyhoeddir.
- Mae copi hygyrch o lyfrau cwrs Mynediad (De Cymru) a Mynediad (Gogledd Cymru) ar gael ar ffurf Pdf a Word.
- Darperir trawsgrifiad i gyd-fynd ag adnoddau sain a fideo y rhan fwyaf o adnoddau’r cwricwlwm.
- Darperir ffeiliau sain heb gerddoriaeth gefndirol o’r rhan fwyaf o adnoddau’r cwricwlwm.
- Darperir llyfr llafar o’r llyfrau cwrs Mynediad (De Cymru), Mynediad (Gogledd Cymru), Sylfaen (De Cymru) a Sylfaen (Gogledd Cymru).
- Mae tudalennau’r wefan wedi cael eu golygu i sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy’n bosibl i’w ddeall.
Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn
Mae datblygwyr ein gwefan yn cynnal profion a dilysu hygyrchedd a defnydd ar yr holl swyddogaethau a rhyngwynebau platfform craidd terfynol fel rhan o ddatblygiad parhaus AGILE y platfform.
Mae datblygwr y wefan yn profi holl swyddogaethau a nodweddion newydd y platfform fel rhan o'r broses ddatblygu sbrint sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Clystyrau o straeon defnyddwyr yw sbrintiau sy'n disgrifio'r nodwedd/swyddogaeth o safbwynt defnyddiwr (neu bersona) (e.e. Fel dysgwr dw i eisiau gallu gwneud ....) . O fewn cylchoedd y prosiect sbrint, mae straeon defnyddwyr yn cael eu cynnwys o safbwynt defnyddwyr hygyrch. Mae'r rhain yn rhan o'r broses Sicrwydd Ansawdd lle mae'r gwaith canlynol yn cael ei wneud.
- Profion swyddogaethol – A yw'r nodwedd neu'r swyddogaeth yn gwneud yr hyn mae’n dweud bod angen iddo ei wneud yn stori'r defnyddiwr
- Profion technegol – a yw'r ateb technegol wedi'i weithredu'n llwyddiannus o ran cod, perfformiad a thechnolegau a ddefnyddir
- Profion defnyddiadwyedd – a yw'r nodwedd/swyddogaeth yn syml ac yn reddfol i'w defnyddio o safbwynt y defnyddiwr terfynol
- Profion hygyrchedd – Profi yn erbyn canllawiau WCAG 2.0, 2.1 a 2.2 Rydym yn ymdrechu i fodloni lefelau AA wrth brofi yn erbyn agweddau Perceivable, Gweithredol, Dealladwy a Chadarn ar y canllawiau.
Defnyddir yr offer a'r dulliau isod wrth brofi.
- Offeryn dilysu hygyrchedd gwe WAVE https://wave.webaim.org/
- Google lighthouse https://developers.google.com/web/tools/lighthouse
- Dilysydd W3C https://validator.w3.org/
14 Hydref, 2024