Bydd yr arbenigwr rhyngwladol ar ddeallusrwydd artiffisial, Llion Jones, cyd-sylfaenydd cwmni Sakana AI yn Tokyo, Siapan, yn annerch y sector Dysgu Cymraeg yng nghynhadledd flynyddol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 22 Mai.
Bydd tiwtoriaid a staff y sector ledled Cymru yn dod ynghyd ar gyfer y gynhadledd yn Llandrindod, i fynychu gweithdai a chlywed gan Llion am ddatblygiadau a photensial deallusrwydd artiffisial i gefnogi dysgu ieithoedd.
Magwyd Llion ym Mangor ac yn Abergynolwyn, Gwynedd, a graddiodd mewn Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial o Brifysgol Birmingham. Gweithiodd i Google am 10 mlynedd, a helpu datblygu’r dechnoleg sy’n sail i lawer o systemau deallusrwydd artiffisial modern, megis chatbots.
Mae Llion bellach yn Brif Swyddog Technolegol – ac yn gyd-sylfaenydd - cwmni ymchwil Sakana AI yn Tokyo, sy’n datblygu modelau deallusrwydd artiffisial newydd, wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, i greu systemau mwy effeithlon i fusnesau.
Mae’r Ganolfan yn barod yn manteisio ar dechnoleg deallusrwydd artiffisial wrth greu adnoddau i helpu unigolion i adnabod lefelau eu Cymraeg, ac mae wrthi’n creu adnodd newydd i helpu cyflogwyr i bennu’r lefelau ieithyddol sydd eu hangen ar gyfer swyddi amrywiol.
Mae’r Ganolfan hefyd yn datblygu ap fydd yn cyflwyno ymarferion geirfa amrywiol, a 'Nodi', ap i gofnodi defnydd a hyder dysgwyr yn y Gymraeg. Bydd hyn yn ategu’r data manwl sydd ar gael yn barod gan y Ganolfan, ac yn helpu i gryfhau’r ddealltwriaeth o batrymau defnydd y Gymraeg.
Mae datblygiadau diweddar mewn deallusrwydd artiffisial wedi agor posibiliadau newydd, cyffrous ar gyfer dysgu ieithoedd. Dw i’n edrych ymlaen at drafod sut y gall y dechnoleg hon gefnogi dysgwyr a thiwtoriaid, ac at glywed am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.
Llion Jones.
’Dyn ni’n falch iawn bod Llion, un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn y maes deallusrwydd artiffisial, yn annerch ein cynhadledd genedlaethol. Wrth i dechnoleg ddatblygu’n gyflym, mae’n bwysig bod y Ganolfan yn dal ati i ganfod ffyrdd newydd o helpu pobl i ddysgu, defnyddio a mwynhau eu Cymraeg. Dw i’n siŵr y bydd Llion yn ein hysbrydoli ni, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu.
Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.