Bronwen yn ysbrydoli Emma i ganu’n Gymraeg

Dych chi’n gwylio Y Llais ar S4C? Y Llais yw fersiwn Gymraeg The Voice.
Mae Emma Winter, sy’n athrawes ysgol gynradd o Droed y Rhiw ger Merthyr Tudful, yn cystadlu ar y rhaglen. Mae hi yn nhîm Bronwen Lewis. Mae Emma hefyd yn dysgu Cymraeg.
Cawson ni air â Emma am ei thaith hyd yn hyn ar Y Llais...
Sut brofiad yw bod ar Y Llais?
Mae’n brofiad anhygoel! Mae Bronwen yn arwres i mi a hi oedd yr unig reswm gwnes i gais i fod ar y rhaglen. Pan wnaeth ei chadair droi, ro’n i mor hapus.
Gwnes i synnu pan wnaeth cadair Bryn droi, ac roedd e’n garedig iawn. Mae’r pedwar beirniad yn hyfryd ond dwi’n hapus i fod ar dîm Bronwen gan ei bod hi’n credu ynddo i.
Ydy’r plant yn mwynhau canu yn Gymraeg yn yr ysgol?
Ydyn – maen nhw wrth eu boddau. Dw i’n defnyddio caneuon Bronwen o TikTok gan eu bod yn berthnasol i’r plant. Wedyn ’dyn ni’n pigo geiriau o’r caneuon a’u trafod – pethau fel ‘this is me – dyma fi’. Mae’r plant yn cofio geiriau yn well os ’dyn nhw mewn cân.
Dw i’n falch fod artistiaid fel Bronwen yn rhan o’n cwricwlwm yn yr ysgol - mae’n bwysig bod plant yn dysgu am artistiaid o Gymru, a chaneuon Cymraeg.
Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Fy unig gyswllt i â’r Gymraeg cyn Y Llais oedd cerddoriaeth. Yn ystod y cyfnod clo, pan wnaeth Bronwen ddechrau canu yn y ddwy iaith, gwnes i feddwl – dw i angen gallu gwneud hyn hefyd.
Felly gwnes i ddechrau canu yn Gymraeg – gyda’r plant yn yr ysgol ac mewn priodasau ac ati.
Pan ges i le ar y rhaglen, gwnes i benderfynu mod i eisiau dechrau dysgu siarad yr iaith hefyd. Dw i’n dysgu gyda Duolingo a SaySomethingInWelsh.
Dw i’n teimlo’n falch o fod ar y rhaglen a chael dangos i bobl bod modd dysgu Cymraeg.
Mae Y Llais bob nos Sul am 7:30pm ar S4C. Mae hefyd ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.