Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio cynllun Dysgu Cymraeg newydd ar gyfer Chwaraeon ar Faes Eisteddfod y Garreg Las am 3.00pm ar ddydd Sadwrn 1 Awst 2026.
Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, nod y cynllun yw cefnogi sefydliadau chwaraeon ledled Cymru i ddatblygu sgiliau Cymraeg ymhlith eu gweithluoedd, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, gan annog a normaleiddio defnydd o’r iaith ar draws y sector.
Bydd y cynllun yn helpu ateb gofynion Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac Adroddiad Pum Mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, sy’n cydnabod sut mae chwaraeon yn gallu cefnogi iechyd a lles, bywyd cymunedol, hunaniaeth, a defnydd o’r Gymraeg.
Bydd y cynllun yn cynnwys ystod o hyfforddiant, gan gynnwys adnoddau digidol a chyrsiau hyblyg wedi’u teilwra i wahanol gymunedau chwaraeon. Bydd tiwtoriaid yn cael eu penodi i weithio â’r sector, a bydd cyrsiau preswyl ar gael i swyddogion cymunedol.
Mae’r cynllun yn adeiladu ar bartneriaethau llwyddiannus y Ganolfan yn y maes, sy’n cynnwys cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam ac Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r cynllun yn atgyfnerthu gwaith y Ganolfan â phobl ifanc hefyd. Mae’r Ganolfan yn barod yn helpu pobl ifanc sy’n dilyn alldeithiau’r Urdd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, a bydd yn ehangu ei gwaith â Cholegau Addysgu Bellach ac Addysg Uwch, a Chynlluniau Prentisiaethau, yn y cyd-destun chwaraeon.
Bydd elfen o’r cynllun yn canolbwyntio ar siaradwyr Cymraeg, gyda’r Ganolfan yn cynnig cefnogaeth arbenigol i gyflwynwyr chwaraeon ar y radio a’r teledu, ar sut i gefnogi chwaraewyr sy’n dysgu Cymraeg, neu sy’n magu hyder i ddefnyddio’r iaith.
Dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
“Mae chwaraeon yn dod â phobl ynghyd mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae’n rhan bwysig o’n hunaniaeth. Mae chwaraeon hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol y tu hwnt i’r ysgol a’r gwaith.
“’Rwyf yn croesawu menter newydd y Ganolfan sy’n adeiladu ar eu gwaith blaenorol yn y maes, gan greu mwy fyth o gyfleoedd i hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, chwaraewyr a chefnogwyr i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg.”
Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru:
“Mae’r cynllun yma yn adeiladu ar y nod hirdymor i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon trwy eu dewis iaith. Bydd cyfleoedd ymarferol ar draws ein cymunedau chwaraeon – ar draws pob math o chwaraeon – i bobl i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a defnyddio'r iaith yn fwy hyderus.
“Dyn ni’n falch iawn o’n partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn edrych ymlaen at gydweithio pellach wrth i ni hyrwyddo’r cynllun, a’i roi ar waith.”
Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
“’Dyn ni’n gwybod bod chwaraeon yn cynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau ac yn gymdeithasol - mae’r sector, felly, yn un sydd â’r gallu i gyrraedd cynulleidfaoedd eang a dylanwadu’n gadarnhaol ar ddefnydd o’r Gymraeg mewn bywyd pob dydd.
“Mae wedi bod yn bleser i gydweithio â Chwaraeon Cymru, a’n partneriaid eraill, i ddatblygu’r cynllun penodol yma, sy’n adeiladu ar ein gwaith cyfredol yn y maes. Edrychwn ymlaen at gefnogi Llywodraeth Cymru, hefyd, wrth iddi ddatblygu cynlluniau pellach ar gyfer y sector chwaraeon.”