Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dathlu deng mlynedd o dwf dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dathlu deng mlynedd o dwf dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dathlu carreg filltir arbennig, sef deng mlynedd ers ei sefydlu, yn Eisteddfod y Garreg Las 2026, gyda rhaglen lawn o weithgareddau sy’n adlewyrchu llwyddiant y sector Dysgu Cymraeg dros y degawd diwethaf.

Erbyn hyn, mae dros 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg – dyma’r nifer uchaf erioed a chynnydd o 61% ers i’r Ganolfan ddod yn gyfrifol am y sector yn 2016.

Dros y blynyddoedd, mae'r Ganolfan wedi ymestyn ei gwaith yn sylweddol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys y sector Iechyd a Gofal a’r Gweithlu Addysg, yn ogystal â theuluoedd, pobl ifanc a siaradwyr Cymraeg sydd eisiau magu hyder i ddefnyddio'r iaith.

Bydd dau ddigwyddiad ym Mhabell y Cymdeithasau, wedi’u llywio gan Dewi Llwyd ac yng nghwmni rhai o ffigyrau amlycaf Cymru, gan gynnwys y canwr, Dafydd Iwan, a’r bardd, Ifor ap Glyn, yn trafod twf y sector a chyfraniad cynyddol bwysig siaradwyr newydd at y Gymraeg.

Yn ystod yr Eisteddfod, bydd y Ganolfan hefyd yn cyhoeddi cynlluniau Dysgu Cymraeg newydd ar y cyd â Chwaraeon Cymru a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.  Bydd hefyd yn dathlu ei phartneriaethau llwyddiannus â Chyngor Llyfrau Cymru ac S4C.

Bydd llysgenhadon newydd y Ganolfan – Aleighcia Scott, Katie Owen, Tori James ac Ian Gwyn Hughes – yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod yr wythnos, gan rannu eu profiadau cadarnhaol o ddysgu a siarad Cymraeg.

Ym Maes D, pentref y dysgwyr, bydd gweithgareddau amrywiol ar gael i ddysgwyr a siaradwyr newydd, a chynhelir seremoni Dysgwr y Flwyddyn ganol yr wythnos.

Bydd gwaith y Ganolfan yn trosglwyddo i’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, un o gyrff hyd braich gweithredol Llywodraeth Cymru ar 1 Awst 2027, o dan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Bydd yr Athrofa yn adeiladu ar sylfeini llwyddiannus y Ganolfan, a’i nod yw hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg fel bod mwy o bobl (o bob oedran) yn dysgu'r iaith.

Bydd sefydlu'r Athrofa yn galluogi cynllunio cenedlaethol cryfach ar gyfer dysgu'r Gymraeg. Bydd yn gweithredu fel siop un stop ar gyfer pob agwedd ar ddysgu'r Gymraeg, gan ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer pob cyfnod o fywyd; gan gynnwys cefnogi ysgolion, pobl ifanc, oedolion a gweithleoedd ar eu taith iaith.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae’n bleser mawr gweld y sector Dysgu Cymraeg yn ffynnu wrth i ni nodi deng mlwyddiant y Ganolfan.

“Dros y degawd diwethaf, ’dyn ni wedi cynllunio’n strategol ac wedi ehangu ein gwaith yn sylweddol, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol a datblygu cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn eu cymunedau, eu gweithleoedd a’u bywydau pob dydd.

“Mae’r data diweddaraf – dros 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg – yn adlewyrchu llwyddiant y gwaith hwnnw, ac yn arwydd o ansawdd ein darpariaeth, ymroddiad ein tiwtoriaid a’n staff, a brwdfrydedd ac angerdd ein dysgwyr a’n partneriaid ledled Cymru.

“’Dyn ni’n freintiedig iawn i gefnogi dysgwyr o bob cefndir ar hyd pob cam o’u taith iaith, er mwyn gwireddu ein nod o greu siaradwyr Cymraeg sy’n mwynhau defnyddio’r iaith.  ’Dyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwnnw, wrth i bennod newydd, gyffrous agor ar gyfer yr iaith.”