“Dw i eisiau gwneud fy ngorau glas i helpu ein dysgwyr i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd”

Mae Joshua Wheeler yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Dysgwyr gyda Dysgu Cymraeg Gwent ers Mai 2022, ac wrth ei fodd yn ei waith.
Mae’n dod o Aberystwyth yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Cawson ni air â Josh i ddysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yng Ngwent i gefnogi dysgwyr.
Beth wnaeth dy ddenu i weithio i’r sector Dysgu Cymraeg?
Ro'n i'n gwybod fy mod i eisiau swydd oedd yn helpu’r Gymraeg i ffynnu ac ers gadael y brifysgol yn 2016, dw i wedi bod yn lwcus i weithio i sefydliadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Pan ddaeth y cyfle yn 2022 i weithio gyda chriw anhygoel Dysgu Cymraeg Gwent, gwnes i neidio ar y cyfle, a dw i eisiau gwneud fy ngorau glas i helpu ein dysgwyr yng Ngwent (a Chymru!) i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd.
Sut fath o glybiau sy ’na i gefnogi dysgwyr yng Ngwent?
Mae nifer o glybiau i gefnogi siaradwyr Cymraeg newydd a siaradwyr lleol Gwent.
Pwrpas y clybiau yw rhoi cyfle i unigolion sgwrsio a gwrando ar y Gymraeg mewn ffordd anffurfiol tu allan i'r dosbarth er mwyn creu siaradwyr gweithredol.
Mae clybiau wythnosol megis Siawns am Sgwrs wyneb yn wyneb yn y Fenni bob dydd Llun a grwpiau Siawns am Sgwrs dros Zoom ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Mae ’na glybiau misol yn cwrdd ym mhob cwr o Went - ym Margoed, y Fenni, Casnewydd, Ystrad Mynach, Glyn Ebwy a Thredegar.
’Dyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau fel y parti Nadolig, gigiau, sesiynau siaradwyr gwadd a thripiau trwy gydol y flwyddyn. Felly mae rhywbeth i bawb.
Pwy sy'n mynychu’r sesiynau yma?
Mae nifer o’r mynychwyr yn dysgu Cymraeg gyda ni, ond mae ’na lawer o bobl leol Gwent yn ymuno oherwydd eu bod eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu.
’Dyn ni hefyd yn cael pobl o bob oedran yn ymuno, sy’n wych. Mae croeso i bawb!
Pam fod clybiau a digwyddiadau fel hyn yn bwysig?
Mae mynychu clybiau neu ddigwyddiadau yn bwysig iawn i gryfhau sgiliau Cymraeg. Mae'n rhoi cyfle i ddysgwyr siarad yn anffurfiol tu allan i'r ystafell dosbarth ac ymarfer beth maen nhw wedi'i ddysgu yn y dosbarth mewn sefyllfa pob dydd a throi'r iaith Gymraeg yn fyw.
Mae cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn holl bwysig, a'n nod, sy'n nod hynod bwysig, yw creu siaradwr gweithredol sy'n defnyddio'u Cymraeg cymaint ag sy'n bosibl.
Mae'r clybiau hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr wneud ffrindiau newydd, ehangu sgiliau cyfathrebu a chymryd rhan mewn gweithgaredd newydd.
Beth sydd ar y gweill i gefnogi dysgwyr yn 2025?
’Dyn ni'n edrych i gynnal hyd yn oed y fwy o ddigwyddiadau yn ystod 2025!
Byddwn yn trefnu digwyddiadau achlysurol fel noson gomedi, trip i'r Eisteddfod yn Wrecsam a chlwb Cinio Dydd Gŵyl Dewi.
Mae llais ein dysgwyr yn bwysig iawn i ni ac os oes gan unrhyw un syniadau am glybiau rheolaidd yng Ngwent, mae croeso iddynt fy e-bostio Joshua.Wheeler@coleggwent.ac.uk.