Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gair o groeso gan Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Gair o groeso gan Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Helo!

Yn ddysgwyr newydd, neu’n ddysgwyr sy’n dychwelyd, croeso cynnes iawn i chi gyd, wrth i dymor yr hydref brysuro. Mae pawb yn y sector Dysgu Cymraeg yn teimlo’n gyffrous iawn i’ch cefnogi chi ar eich taith iaith, a darparu cyfleoedd amrywiol i chi ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.

Arbenigwyr dysgu a chaffael iaith

Mae gwaith y Ganolfan Genedlaethol wedi tyfu, ac erbyn hyn, dan ni’n cynnig dewis eang o gyrsiau, yn y gymuned, yn rhithiol, ac ar-lein. Mae cynlluniau arloesol ar gyfer grwpiau a sectorau penodol, hefyd, gan gynnwys pobl ifanc, teuluoedd, Iechyd a Gofal, a Chwaraeon.

Mae’r holl gyrsiau ac adnoddau wedi’u cynllunio’n ofalus gan arbenigwyr dysgu a chaffael iaith y Ganolfan. Mae ein cyrsiau yn cyd-fynd â Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop, y ‘CEFR’, gan roi llwybr clir i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.

Defnyddio’r Gymraeg

Yn ogystal â’r cyrsiau, mae llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio eich Cymraeg yn eich bywydau pob dydd. Mae adnoddau di-ri ar gael, gan gynnwys cwisiau rhyngweithiol, cyfres lyfrau Amdani, a fideos YouTube Dysgu Cymraeg, heb anghofio gwasanaethau BBC Radio Cymru, S4C, a mwy. Dilynwch y ddolen nesaf am fwy o wybodaeth: Adnoddau Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg.

Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg ar gael hefyd. Beth am ymuno â chlwb darllen neu’r cynllun Siarad? Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ddilyn y ddolen nesaf: Defnyddio eich Cymraeg | Dysgu Cymraeg.

Angerdd

Heb os, mae arbenigedd ac angerdd ein staff a’n tiwtoriaid yn rhoi profiad gwerth chweil i’n dysgwyr, ac mae hynny’n destun balchder. Mae taith iaith pob dysgwr yn unigryw, ac mae staff ar draws y sector Dysgu Cymraeg yma i’ch arwain, i’ch ysbrydoli a’ch cefnogi.

Pob lwc gyda’r dysgu!