Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gogledd Cymru’n denu cerddor o Gilgwri

Gogledd Cymru’n denu cerddor o Gilgwri

Wedi blynyddoedd o ddyheu am gael byw yng Nghymru a dysgu Cymraeg, mae breuddwyd un ferch o Gilgwri bellach wedi’i gwireddu.

Treuliodd Siân Davies ddeunaw mlynedd yn byw yng Nghilgwri, ble cafodd ei magu ar aelwyd Saesneg.  Ond wrth edrych dros Afon Dyfrdwy ar fynyddoedd gogledd Cymru, roedd yn dyheu am gael byw ar fferm yno rhyw ddydd.

“Ro’n i wastad yn teimlo bod gen i ryw fath o gysylltiad â Chymru,” eglura Siân. “Mi ges i blentyndod anodd, felly ro’n i’n dychmygu cael bod ar fferm yng Nghymru, efo fy nheulu a llwyth o anifeiliaid – roedd yn freuddwyd i mi!”

Gadawodd Siân yr ysgol a mynd i astudio’r ffidil yn Birmingham, ble cyfarfu â’i gŵr, Ed Wadon o Wrecsam.  Mae’r ddau bellach yn byw ar fferm yn Llannerch Banna, gyda’u mab Robin Llŷr, ac yn ddiweddar, mae Siân wedi darganfod cysylltiad teuluol â’r ardal wedi’r cyfan – roedd taid ei thaid yn arfer ffermio yn agos iawn at eu fferm. 

Dechreuodd Siân ddysgu Cymraeg cyn y cyfnod clo gyda SaySomethingInWelsh.  Yn ddiweddarach, ymunodd â dosbarth rhithiol gyda chwmni Popeth Cymraeg, sy’n darparu cyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gogledd ddwyrain mewn partneriaeth â Choleg Cambria, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Siân bellach yn dysgu ar lefel Uwch, ac wedi mentro i fyd tiwtora.  Mae hi’n dysgu dau ddosbarth lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr bob wythnos ac wrth ei bodd.

Meddai Siân; “Dw i’n caru dysgu efo Popeth Cymraeg, a dw i eisiau parhau.  Dw i eisiau annog dysgwyr eraill i ddal ati, fel dw i wedi ei wneud.  Dw i wedi dysgu Cymraeg, felly gall pobl eraill wneud hynny hefyd - does dim ots pwy dach chi, nac o le dach chi’n dŵad.  Rhaid i ni siarad Cymraeg er mwyn sicrhau bod yr iaith yn fyw ym mhob cornel o’r wlad.”

Mae Siân yn gwneud ei gorau glas i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned leol.  Gyda chymorth Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mae wedi sefydlu grŵp Cymraeg Bro Maelor.  Ei dymuniad yw cynnal gwersi ffidil i blant trwy gyfrwng y Gymraeg, defnyddio mwy o Gymraeg yn yr eglwys, yn ogystal â chychwyn papur bro rhyw ddydd.

Ychwanegodd Siân; “Dw i eisiau tyfu’r diwylliant Cymraeg a’r iaith yn yr ardal, a dw i’n awyddus i sicrhau bod plant y pentref yn cael mwy o gyfleoedd drwy’r Gymraeg.  Mae dysgu Cymraeg wedi bod mor fuddiol i mi.  Mae wedi gwneud gwahaniaeth i fy lles, a dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau ers dechrau dysgu Cymraeg.  Mae’r gymuned Gymraeg, yn siaradwyr ac yn ddysgwyr fel ei gilydd, wedi bod mor groesawgar a chyfeillgar ers i mi ddechrau ar fy nhaith i ddysgu’r iaith.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; “Mae’n hyfryd clywed sut mae dysgu Cymraeg wedi cyfoethogi bywyd Siân - llongyfarchiadau enfawr i Siân ar ei thaith iaith, a phob dymuniad da gyda’r gwaith tiwtora.”

Llun - Siân gyda'i gŵr, Ed a'i mab Robyn, wedi'i gymryd gan Kamila Kosior.