Hoffi darllen? Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n dweud “Ewch Amdani!”
Ers cyhoeddi’r nofel gyntaf yn 2018, mae cyfres lyfrau Amdani wedi mynd o nerth i nerth.
Mae llyfrau’r gyfres wedi’u teilwra ar gyfer y lefelau Dysgu Cymraeg - p’un ai dych chi’n dechrau eich taith iaith, neu’n siaradwr newydd, mae’n ffordd wych i ymarfer a mwynhau eich Cymraeg.
Beth yw cyfres Amdani?
Mae’r gyfres yn cynnwys llyfrau o bob math. O nofelau a storïau byrion i gofiannau a llyfrau ffeithiol, mae rhywbeth i bawb.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi gweithio gyda’r Ganolfan i drefnu’r gyfres, ac mae dros 40 teitl. Mae’r llyfrau yn defnyddio geirfa a phatrymau iaith sy’n addas ar gyfer y gwahanol lefelau: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Mae bron 17,000 o bobl yn dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan, ac felly mae galw uchel am lyfrau Amdani.
Pam roedd angen y gyfres?
Ro’n ni’n gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth o ran llyfrau addas ar gyfer oedolion oedd yn dysgu Cymraeg. Ar y dechrau, cawson ni help gan Wasg Prifysgol Caergrawnt, sy wedi ysgrifennu llyfrau ar gyfer siaradwyr Saesneg ail iaith. Cawson ni ganiatâd i addasu pump llyfr i’r Gymraeg. Roedd y broses yn bwysig iawn a dysgon ni wersi defnyddiol.
Ers y pump llyfr cyntaf, mae holl lyfrau’r gyfres yn rhai gwreiddiol gan awduron Cymraeg. Mae ’na lyfrau gan bobl sy wedi dysgu Cymraeg, ac mae ’na lyfrau gan rai o’n prif awduron yn y Gymraeg, gan gynnwys Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros.
Pwysigrwydd y gyfres
Mae’r gyfres yn bwysig iawn i ddysgwyr achos eu bod nhw’n gwybod bod y deunydd darllen yn addas ar gyfer y lefel ddysgu. Mae’n gyfle i adolygu, ac i ddysgu geirfa newydd. Mae’n cefnogi’r broses ddysgu mewn ffordd hwyliog a phleserus.
Ble galla i ddod o hyd i lyfrau Amdani?
Dych chi’n gallu dod o hyd i lyfrau Amdani yn eich siop lyfrau Cymraeg leol, neu’r llyfrgell. Dilynwch y ddolen nesaf i ddefnyddio map rhyngweithiol yn dangos siopau llyfrau Cymraeg: map rhyngweithiol. Mae’r llyfrau hefyd ar gael i’w prynu trwy wefan Gwales.com, ac mae’n bosib prynu e-lyfrau a llyfrau llafar hefyd. Gwyliwch y fideo i weld sut mae mynd ati i brynu’r llyfrau llafar ar ffolio.cymru: