Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Emily

Holi Emily

Mae Emily Evans, sy’n 25 oed, yn actores ac yn byw yn Llundain.  Mae hi’n wreiddiol o’r Bont-faen, Bro Morgannwg.

Mae hi’n dysgu Cymraeg ar gwrs Mynediad gyda Dysgu Cymraeg Y Fro ers Ionawr 2024.

Beth am ddysgu mwy am Emily?

Wyt ti’n hoffi dysgu ieithoedd?

Ydw.  Es i i Ysgol Howells yng Nghaerdydd a gwnes i TGAU Cymraeg ail iaith.  Gwnes i Lefel A Ffrangeg, a gradd Ffrangeg ac Eidaleg yn y brifysgol.

Dw i eisiau dysgu Cymraeg nawr.

Gwnes i ddechrau gwersi ar-lein yn mis Ionawr, a dw i’n gwneud llawer o waith ychwanegol fy hun hefyd.  Dw i’n treulio tua phedair awr yr wythnos yn dysgu Cymraeg.

Pam mae dysgu Cymraeg yn bwysig i ti?

Actores dw i a dw i eisiau gallu actio yn Gymraeg gan ei bod yn rhan o fy etifeddiaeth.

Dw i hefyd wrth fy modd yn clywed actorion yn defnyddio’r iaith – mae rhywbeth arbennig iawn yn sŵn y Gymraeg wrth berfformio.

Dw i hefyd wastad wedi caru’r iaith.

Oes gen ti ffrindiau neu deulu sy’n siarad Cymraeg?

Mae gen i un ffrind yn Llundain sy’n siarad Cymraeg.  Aeth e i Ysgol Plasmawr, ac mae fy ffrind Anna yn siarad Cymareg hefyd.  Dw i eisiau siarad Cymraeg efo nhw, ond mae’n anodd newid iaith. Ond weithiau, os oes clyweliad yn Gymraeg, dw i’n gallu gofyn iddyn nhw helpu.

Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?

Mae’n gwneud i mi deimlo’n fwy o Gymraes a dw i’n teimlo’n falch iawn ohono i fy hun pan dw i’n llwyddo i ddweud brawddeg yn Gymraeg.

Cyn bo hir, dw i’n gobeithio bydda i’n gallu siarad efo pobl yn Gymraeg yn y siop pan fydda i gartre yn y Bont-faen.