Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Ewa

Holi Ewa

Mae Ewa Wawrzyszuk yn dysgu Cymraeg ar gynlluniau’r gweithleoedd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae hi’n defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn ei gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Ewa yn gweithio i gwmni adeiladu yn Llanelli, ac fe symudodd yno o wlad Pwyl yn 2007.

Yma, ’dyn ni’n holi Ewa am ei thaith i ddysgu Cymraeg…

Pam penderfynu symud i Gymru?

Symudais i Gymru gyda fy nghariad er mwyn dod o hyd i waith.  ’Dyn ni wedi priodi nawr, ac nid oedd gennym unrhyw gysylltiadau â Chymru cyn symud.

Ydych chi’n siarad unrhyw ieithoedd eraill?

Dw i’n siarad Pwyleg a Saesneg, a Chymraeg wrth gwrs.

Beth yw eich swydd?

Dw i’n gweithio fel Cynorthwyydd Cyfrifon i gwmni adeiladu.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Gan fy mod i’n byw yng Nghymru, ro’n i eisiau dysgu’r iaith dw i’n ei chlywed yn cael ei siarad yn lleol. 

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi’i wneud i chi?

Dw i’n teimlo’n fwy hyderus pan dw i allan, achos dw i’n gallu cyfrannu at sgyrsiau.

Sut dych chi’n ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Dw i’n trio siarad cymaint o Gymraeg â phosib gyda chydweithwyr yn y swyddfa.

Dych chi’n defnyddio llawer o Gymraeg yn y gwaith?

Dw i’n cyfarch cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg dros y ffôn neu dros e-bost.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Peidiwch ag aros — ewch amdani!

Beth nesaf gyda’r Gymraeg?

Parhau i ddysgu, a symud ymlaen i’r lefel nesaf gobeithio.